Panel Cynhwysiant Powys (PIP)
Mae Panel Cynhwysiant Powys (PIP), yn banel aml-asiantaeth sy’n cyfarfod bob yn ail wythnos yn ystod y tymor i drafod a chydlynu cymorth yr awdurdod lleol o ran ADY i ysgolion a disgyblion. Gallai hyn fod yn unrhyw beth o asesiadau Seicolegydd Addysg, cyfranogiad y gwasanaeth synhwyraidd, cymorth ymddygiad, cyfranogiad athrawon arbenigol, a chymorth allgymorth arbenigol.
Er mwyn cael y cymorth hwn, rhaid i ysgolion ddilyn ‘dull graddedig at angen’ yr awdurdod lleol. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ysgolion ddangos tystiolaeth o unrhyw ymyrraeth neu gefnogaeth y maent eisoes wedi rhoi cynnig arnynt gyda’r disgybl a mynychu’r ymgynghoriad perthnasol cyn atgyfeirio at Banel Cynhwysiant Powys. Gwneir hyn er mwyn i swyddogion yr awdurdod gael y wybodaeth gefndir angenrheidiol i allu helpu'r ysgol a'r disgybl yn effeithiol. Os nad yw’r dystiolaeth berthnasol yno, neu os nad yw’r panel yn cytuno bod y cymorth y gofynnwyd amdano yn briodol, caiff y cais ei wrthod.
Mae PCP hefyd yn delio â cheisiadau CDU ALl sy'n cynnwys penderfynu ar ADY yn seiliedig ar y cod Anghenion Dysgu Ychwanegol, cynnal Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU), a darparu Darpariaeth Dysgu Ychwanegol (DDY).
Caiff Panel Cynhwysiant Powys ei gadeirio gan reolwr cynhwysiant ac mae’r mynychwyr eraill yn cynnwys Seicolegydd Addysg, cynrychiolydd iechyd, arweinwyr ymddygiad, IDS, YIS, arweinydd o’r gwasanaeth synhwyraidd, a gallai gynnwys gweithwyr proffesiynol eraill yn dibynnu ar yr achos.
Is-bwyllgorau Panel Cynhwysiant Powys
Mae pedwar is-bwyllgor i'r PCP, sef Panel Cynhwysiant Blynyddoedd Cynnar Powys (PCBCP), Panel Datrys Anghytundebau (PDA), Panel Lleoliadau, a Phanel Ymgynghori Ymddygiad ac AHY.
Panel Cynhwysiant Blynyddoedd Cynnar Powys (EYPIP)
Mae EYPIP yn gweithredu mewn ffordd debyg i Banel Cynhwysiant Powys, ond lle mae’r achosion a drafodir o fewn PIP ar gyfer disgyblion oedran ysgol statudol, mae EYPIP ar gyfer disgyblion rhwng 0-5 oed ac yn cefnogi ein lleoliadau blynyddoedd cynnar a meithrinfeydd yn hytrach nag ysgolion. Caiff EYPIP ei gadeirio gan Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar (EYALNLO) ac mae’n cyfarfod bob pythefnos yn ystod y tymor.
Achosion cymhleth
Os yw achos yn gymhleth ac angen trafodaeth ar lefel uwch, fe’i cymerir i'r panel achosion cymhleth sy'n cyfarfod yn wythnosol. Mynychir y panel gan yr holl reolwyr cynhwysiant, y rheolwr gwasanaeth ar gyfer cynhwysiant a gwasanaethau ieuenctid, a swyddog cymorth addysg. Mae’r penderfyniadau a wneir mewn achosion cymhleth yn cael eu bwydo’n ôl i’r panel neu’r ysgol berthnasol.
Panel Datrys Anghytundebau (DRP)
Sefydlwyd y panel datrys anghytundeb gyda’r diben o ailystyried penderfyniad ADY yr ALl (ADY/dim ADY), ailystyried cynnwys CDU ALl, ailystyried darparu DDdY/ALP mewn CDU ALl, ystyried y ddarpariaeth Gymraeg, ac ailystyried y penderfyniad i roi'r gorau i gynnal CDU. Dim ond y person ifanc ei hun neu rieni a gofalwyr sy’n gallu cyflwyno cais i’r Panel Datrys Anghytundebau. Mae ceisiadau am ailystyried penderfyniadau ysgol i’r ALl yn dal i gael eu clywed o fewn y PIP. Dim ond os oes gwybodaeth ychwanegol nad yw wedi’i hystyried o’r blaen neu os oes problem dechnegol gyda’r penderfyniad dechreuol y gellir cyflwyno anghytundeb i’r Panel Datrys Anghytundebau.
Caiff y Panel Datrys Anghytundebau ei gadeirio gan yr Arweinydd Gwasanaeth ar gyfer Cynhwysiant a Gwasanaethau Ieuenctid ac mae’r aelodaeth yn cynnwys Seicolegydd Addysg, SNAP Cymru, cynrychiolydd rhieni, a chynrychiolydd penaethiaid. Mae’r Panel Datrys Anghytundebau yn cyfarfod pan gyflwynir anghytundeb.
Panel Lleoliadau
Mae'r panel lleoliadau yn cydlynu ac yn cymeradwyo lleoliadau addysgol ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â Chynlluniau Datblygu Unigol Awdurdodau Lleol (CDU ALl). Mae hefyd yn ystyried ceisiadau cymhleth am leoliadau addysgol, gan gynnwys lleoliadau mewn ysgolion annibynnol.
Panel Ymgynghori Ymddygiad ac AHY (Addysg Heblaw yn yr Ysgol)
Mae'r panel ymgynghoriad ymddygiad ac AHY yn darparu cymorth, cyngor ac arweiniad i leoliadau ac ysgolion Powys ynghylch ymddygiad. Mae'n darparu allgymorth o'r Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD) ac yn ystyried lleoliadau UCD dilynol. Mae hefyd yn ystyried ceisiadau am hyfforddiant meddygol a darpariaeth AHY arall.
Sut mae ysgolion yn cyflwyno atgyfeiriadau i Banel Cynhwysiant Powys trwy Tyfu?
Mae angen tystiolaeth ategol ar gyfer pob atgyfeiriad ac mae gan bob atgyfeiriad ragofynion penodol. Eglurir y rhain i gyd mewn dwy ddogfen ganllaw a hyfforddiant y mae tîm ADY Cyngor Sir Powys wedi'u cynhyrchu. Y rhain yw ‘Tyfu Demo 3. Referrals and the School Guide on Referrals to the LA’ a welir isod.
‘Tyfu Demo 3. Atgyfeiriadau' (isod) – cyflwyniad PowerPoint â throslais yw hwn sy’n esbonio sut i gyflwyno atgyfeiriad drwy Tyfu, sut mae’r ymateb graddedig yn gweithio yn ymarferol, a beth sy’n digwydd i’ch atgyfeiriad ar ôl i’r tîm ADY ei dderbyn.
Mae 'Canllaw Ysgolion ar Atgyfieiro’ isod yn esbonio o dan ba amgylchiadau i wneud atgyfeiriadau i Banel Cynhwysiant Powys a’r gweithredu a deilliannau posibl ar gyfer yr ysgol a’r Awdurdod Lleol. Y mae hefyd yn cynnwys 2 adrannau:
1: Ymagwedd Raddedig at Anghenion Cefnogi – mae hwn yn esbonio 4 cam ymateb graddedig at angen, pa weithredu/ymyrraeth i’w ceisio, y deilliannau a’r camau nesaf. Mae hyn yn cynnwys camau sydd angen cael eu cymryd cyn bod atgyfeiriad yn cael ei wneud gan yr awdurdod.
2: Mynediad at Gyngor Proffesiynol yr ALl – mae’n rhoi gwybodaeth bellach am sut i gael mynediad at gyngor a chefnogaeth broffesiynol yr ALl.