Iechyd
Fel gweithiwr iechyd proffesiynol, mae'n debygol y byddwch yn ymwneud â phlant ag ADY. Gallwch ddarparu ymyriad, cwblhau asesiadau, neu gyfeirio achos at Gyngor Sir Powys oherwydd eich bod yn credu y gallai fod gan y plentyn yr ydych yn gweithio gydag ef anghenion dysgu ychwanegol.
Mae Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 yn nodi dyletswyddau ar gyfer y bwrdd iechyd lleol. Mae’r dyletswyddau hyn yn cynnwys:
ystyried a oes triniaeth neu wasanaeth perthnasol sy’n debygol o fod o fudd wrth ymdrin ag ADY plentyn neu berson ifanc;
sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (hynny yw, y driniaeth neu’r gwasanaeth perthnasol) a ddisgrifir mewn CDU (IDP) fel darpariaeth sydd i’w sicrhau gan y Bwrdd Iechyd Lleol (gan gynnwys cymryd camau rhesymol i sicrhau ei fod yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg pan fo angen hynny);
cymryd rhan mewn adolygiadau o Gynlluniau Datblygu Unigol lle mae triniaeth neu wasanaeth perthnasol wedi’i nodi fel Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol i'w sicrhau gan y Bwrdd Iechyd Lleol;
ceisiadau gan awdurdodau lleol i’r Bwrdd Iechyd Lleol am wybodaeth neu gymorth arall, y mae’r awdurdodau ei angen er mwyn cyflawni ei swyddogaethau ADY;
hysbysu rhieni ac awdurdodau lleol o farn y Bwrdd Iechyd Lleol ei bod yn debygol bod gan blentyn o dan oedran ysgol gorfodol ADY.
Gallwch ddarllen mwy am ddyletswyddau’r bwrdd iechyd lleol ym mhennod 9 y cod ADY.
Mae Cyngor Sir Powys yn defnyddio platfform Tyfu i storio CDU, storio dogfennau, a phrosesu atgyfeiriadau. Er mwyn ei gwneud yn haws i weithwyr iechyd proffesiynol gyflawni eu dyletswyddau o dan y cod ADY, mae set o systemau wedi'u rhoi ar waith. Isod, fe welwch wybodaeth am sut i gael mynediad at broffiliau Tyfu er mwyn gallu lanlwytho adroddiadau a dogfennau, gwybodaeth i ymwelwyr iechyd sydd am hysbysu’r Awdurdod Lleol am ADY posibl, y broses ar gyfer ysgrifennu Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol iechyd, a mynychu cyfarfodydd adolygu.
Cyrchu proffiliau Tyfu
Mae rhai amgylchiadau lle gallwch chi fel gweithiwr iechyd proffesiynol gael eich gwahodd i broffil Tyfu plentyn.
· I rannu adroddiadau
· I ysgrifennu Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol
· I fynychu Cyfarfodydd Asesu ar y Cyd (JAMs)
Bydd y gwahoddiad i gael mynediad at broffil plentyn yn mynd yn syth i'ch cyfeiriad e-bost. Byddwch hefyd yn cael cod 6 digid ar gyfer y plentyn penodol. Gweler y canllaw gwahoddiadau am gyfarwyddiadau cam wrth gam ar sut i gael mynediad at y proffil.
Yna gellir lanlwytho adroddiadau a dogfennau i'r tab 'cynlluniau ac adroddiadau'.
Ymwelwyr Iechyd Blynyddoedd Cynnar
I roi gwybod i dîm ADY y Blynyddoedd Cynnar y gallai fod gan blentyn yr ydych wedi ymweld ag ef ADY, defnyddiwch y ffurflen Microsoft sydd i’w gweld yma: PTHB Notification to PCC (office.com)
Gweler y canllaw byr hwn hefyd am wybodaeth ychwanegol am y broses hon:
DDdY (ALPs) Iechyd
Mae’n bosibl y bydd rhai disgyblion ag ADY angen DDdY sydd naill ai wedi’i hysgrifennu gan weithwyr iechyd proffesiynol a’u cyflwyno gan staff yr ysgol neu’n cael eu darparu’n gyfan gwbl gan weithwyr iechyd proffesiynol. Pan fo hyn yn wir, dylai ysgolion gyfeirio'r plentyn at yr Awdurdod Lleol trwy Tyfu. Bydd tîm Tyfu wedyn yn hysbysu’r gwasanaeth perthnasol o’r cais a bydd yr ysgol yn gwahodd y gweithiwr proffesiynol i’r proffil Tyfu. Yna gallai’r gweithiwr iechyd proffesiynol perthnasol ysgrifennu’r DDdY (ALPs) yn y tab Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol ar Tyfu.
Mynychu cyfarfodydd adolygu
Efallai y bydd angen mewnbwn gan iechyd i ysgrifennu ac adolygu CDU. Os oes angen i weithiwr iechyd proffesiynol fynychu Cyfarfod Asesu ar y Cyd (JAM) neu gyfarfod adolygu, anfonir gwahoddiad at y gweithiwr proffesiynol a gellir rhoi mynediad i broffil Tyfu y plentyn. Os na allwch ddod i'r cyfarfod, efallai y bydd angen i chi anfon adroddiad yn lle hynny fel y gellir cynnwys persbectif iechyd proffesiynol yn y CDU terfynol.
Ysgolion y tu allan i'r sir
Mae Cyngor Sir Powys yn defnyddio platfform Tyfu i gynnal yr holl wybodaeth ADY a CAP (PEP), sy'n cynnwys Proffiliau Un Tudalen, Cynlluniau Darpariaeth Dysgu Cyffredinol, a Chynlluniau Datblygu Unigol (CDU). Os oes gan blentyn CDU a Gynhelir gan Awdurdod Lleol ond ei fod yn mynychu ysgol mewn awdurdod y tu allan i Bowys, bydd y CDU yn cael ei gynnal ar Tyfu. Fel ysgol, byddwch yn gallu cyrchu’r wybodaeth hon trwy gael gwahoddiad i weld proffil Tyfu y disgybl. Bydd y gwahoddiad i gael mynediad at broffil plentyn yn mynd yn syth i'ch cyfeiriad e-bost. Byddwch hefyd yn cael cod 6 digid ar gyfer y plentyn penodol. Gweler y canllaw gwahoddiadau am gyfarwyddiadau cam wrth gam ar sut i gael mynediad at y proffil.
Gallwch hefyd weld dau ddemo wedi'u recordio o blatfform Tyfu i ymgyfarwyddo â'r system:
Llywio dolen Tyfu
Llywio dolen Proffiliau Tyfu
Canllawiau Llywodraeth Cymru
Taflen Ffeithiau am ADY ar Gyfer Gwasanaethau Iechyd