Rhaid i awdurdodau lleol yng Nghymru ddilyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (ALNET). Mae'r systemau a'r prosesau i gefnogi dysgwyr ag ADY (anghenion dysgu ychwanegol) ym Mhowys yn seiliedig ar y Ddeddf hon.
Ym Mhowys, mae gennym dair prif system i gefnogi dysgwyr ag anghenion sy'n dod i'r amlwg ac ADY; sef platfform Tyfu, porth Tyfu, a Phanel Cynhwysiant Powys(PIP).
Gwefan yw platfform Tyfu lle rydym yn storio'r holl wybodaeth sy'n gysylltiedig ag ADY dysgwyr. Bydd proffil Tyfu eich plentyn yn ei ddilyn yn awtomatig drwy gydol ei addysg ym Mhowys. Mae hyn yn sicrhau bod gan ysgol newydd eich plentyn fynediad at ei ddogfennau. Defnyddir llwyfan Tyfu hefyd gan ysgolion i gyflwyno atgyfeiriadau a cheisiadau am gymorth. Gallwch gael mynediad at broffil eich plentyn drwy gysylltu â'r ysgol (mwy o wybodaeth am hyn isod).
Desg gymorth dros y ffôn ac ar e-bost yw porth Tyfu. Pwrpas y porth yw bod y pwynt cyswllt cyntaf a llinell gymorth i ysgolion, rhieni a gweithwyr proffesiynol. Gall porth Tyfu eich cyfeirio at y tîm cywir os ydych yn ansicr ble i fynd am gymorth. Dyma fanylion cyswllt porth Tyfu:
E-bost: tyfu@powys.gov.uk
Ffôn: 01597 827 108
Mae Panel Cynhwysiant Powys yn cyfarfod bob pythefnos yn ystod y tymor i drafod achosion atgyfeirio a cheisiadau gan ysgolion. Gweler tudalen Panel Cynhwysiant Powys am ragor o wybodaeth am hyn. Mae gennym hefyd Banel Cynhwysiant Blynyddoedd Cynnar Powys (EYPIP). I gael rhagor o wybodaeth am EYPIP, gweler y dudalen ADY - Blynyddoedd Cynnar.
Cymorth i Rieni/Gofalwyr
Cynllun Datblygu Unigol fy Mhlentyn - canllaw i rieni
Adolygiad Blynyddol fy Mhlentyn - canllaw i rieni
CDU eich Plentyn ar ôl 16 - canllaw i rieni
Ystyried Colegau Arbenigol - canllaw i rieni
Cael mynediad i broffil Tyfu eich plentyn
I gael mynediad i broffil Tyfu eich plentyn, cysylltwch â Chydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CydADY) yr ysgol. Byddant yn anfon gwahoddiad atoch sy'n mynd yn syth i'ch cyfeiriad e-bost. Yna gallwch ddefnyddio’r canllaw isod i gael cyfarwyddiadau cam wrth gam.
Trafnidiaeth Ol-16
Trafnidiaeth ADY
Dyletswyddau Lleoliad Blynyddoedd Cynnar o dan ADYTA
Rhaid i leoliadau'r blynyddoedd cynnar gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) sy'n dod i'r amlwg. Bydd y lleoliad yn cefnogi eich plentyn gyda chynllun gwahanol yn dibynnu ar lefel ei angen. Er enghraifft, bydd plentyn ag anghenion sy'n dod i'r amlwg yn cael ei gefnogi gan Gynllun Chwarae Darpariaeth Ddysgu Gyffredinol (cynllun ULPP). Mae'r cynlluniau hyn yn gosod targedau tymor byr ar gyfer y dysgwr y gall y lleoliad ei helpu i'w cyflawni. Mae'r cynlluniau hyn hefyd yn amlinellu'r cymorth a'r gefnogaeth y bydd y lleoliad yn eu cynnig. Os oes gan blentyn ADY, bydd yr awdurdod lleol yn cynnal Cynllun Datblygu Unigol (CDU ALl), sy'n gynllun cyfreithiol rhwymol ar gyfer hynny sy'n amlinellu anghenion y plentyn a'r ddarpariaeth a fydd yn ei gefnogi. Am ragor o wybodaeth am ADY yn y blynyddoedd cynnar, cliciwch ar y botwm gwyrdd isod.
Canllaw Gwybodaeth i Rieni: Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar
Siart Llif Penderfyniadau ADY Blynyddoedd Cynnar
School’s duties under ALNET
Schools must support learners with emerging and additional learning needs (ALN). The school will support your child with a different plan depending on their level of need. For example, a learner with emerging needs will be supported by a Universal Learning Provision Plan (ULP plan). These plans set short term targets for the learner which the school can help them achieve. Examples of provision that could see in ULP Plans include small group work, extra lessons, or small-scale interventions. If a learner has ALN, the school will be required to write a school maintained Individual Development Plan (School IDP) which is a legally binding plan that outlines the child's needs and the provision that will support them. An IDP must be reviewed annually to track and monitor the learner's progress.
The local authority offers support to schools in the form of individual consultations, assessments, school visits, and general advice. Schools must take all relevant steps to support a child based on their need. They can do this by submitting requests and referrals to the local authority via the Tyfu platform. As a parent, you can see all requests and referrals that the school has submitted to the local authority and the outcomes in the "authority referral" tab on your child's Tyfu profile.
Schools and parents can request that the local authority takes over the maintenance of a School IDP if the learner isn't making progress, making it a Local Authority IDP (LA IDP).
Cwestiynau Cyffredin am y CDU ar gyfer rhieni a gofalwyr
Beth yw CDU?
Mae CDU, neu gynllun datblygu unigol, yn ddogfen gyfreithiol y mae Cyngor Sir Powys yn ei chynnal ar blatfform Tyfu. Mae’r CDU yn amlinellu ADY eich plentyn, ei broffil un dudalen, a’r ddarpariaeth dysgu ychwanegol (DDY) sydd ei hangen arno i gefnogi ei ddysgu. Adrannau’r CDU yw:
Proffil un dudalen
Meysydd angen
Llinell amser o ddigwyddiadau allweddol
DDY/ALP
Cyfathrebu
Amdanaf i
Pontio
Gall yr ysgol neu'r Awdurdod Lleol gynnal CDU.
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng CDU a gynhelir gan ysgol a CDU a gynhelir gan yr ALl?
Yn y rhan fwyaf o achosion, yr ysgol fydd yn cynnal y CDU. Bydd yr ALl yn gyfrifol yn awtomatig am CDU os yw’r disgybl:
· dan 5 ac nid mewn ysgol a gynhelir
· yn blentyn sy’n derbyn gofal (CLA)
· gyda chofrestriad deuol
· un sy’n cael ei gadw
· EHE/EOTAS
Byddai’r ALl hefyd yn gyfrifol am ddisgyblion ag anghenion mwy cymhleth neu rai sy’n ymddangos yn llai aml.
Beth yw diffiniad ADY o dan God Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021?
Mae gan berson anghenion dysgu ychwanegol os oes ganddo anhawster dysgu neu anabledd (boed yr anhawster dysgu neu anabledd yn deillio o gyflwr meddygol neu fel arall) sy’n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (ALP).
Mae dau brawf yn y cod y mae'n rhaid i ysgolion ac awdurdodau lleol (ALl) eu defnyddio i benderfynu a oes gan ddysgwr ADY.
Prawf 1: A oes gan y plentyn anhawster dysgu neu anabledd?
i. A yw'r plentyn yn cael llawer mwy o anhawster wrth ddysgu na'r mwyafrif o blant eraill o'r un oedran, neu
ii. anabledd (o fewn ystyr Deddf Cydraddoldeb 2010) sy’n atal neu’n rhwystro’r plentyn rhag gwneud defnydd o gyfleusterau ar gyfer addysg neu hyfforddiant o fath a ddarperir yn gyffredinol ar gyfer eraill o’r un oedran mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir.
Prawf 2: Ydy'r anhawster dysgu neu anabledd yn galw am DDY?
Datrys anghytundeb
Efallai y byddwch yn anghytuno â phenderfyniad a wnaed gan yr ysgol neu’n anhapus â’r cymorth y mae eich plentyn yn ei dderbyn. Mae CSP yn annog y dylid trafod pob anghytundeb yn gyntaf gyda'r ysgol. Os ydych yn dal yn anhapus, gallwch gysylltu â phorth Tyfu a gofyn i’r Awdurdod Lleol ailystyried eich achos yn y panel perthnasol.
Os yw’ch achos eisoes wedi’i drafod gan yr ALl a’ch bod yn anhapus â’r penderfyniad y maent wedi’i wneud, gallwch ofyn i’r Panel Datrys Anghytundeb adolygu’r achos, os oes gennych wybodaeth ychwanegol a allai effeithio ar ganlyniad y penderfyniad. Gallwch hefyd gysylltu â’r gwasanaeth eiriolaeth annibynnol, SNAP Cymru ar 0808 8010608 neu gweler https://www.snapcymru.org/contact/ .
Mae gennych hefyd hawl i apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru a gallwch ofyn iddynt adolygu rhai o elfennau’r CDU.
Mae manylion cyswllt y Tribiwnlys fel a ganlyn:
Tribiwnlys Addysg Cymru
Uned Tribiwnlysoedd Cymru
Blwch SP 100
Llandrindod
LD1 9BW
Ffôn: 0300 025 9800
E-bost: educationtribunal@gov.wales neu tribunal.enquiries@gov.wales
Rhestr Termau
Canllawiau Llywodraeth Cymru
System anghenion dysgi ychwanegol (ADY): canllaw i rieni
Taflen ffeithiau am ADY ar gyfer plant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr