Gwasanaethau Cyfieithu Amlieithog – Canllawiau i Staff
Wrth gynnal trafodaethau sy'n ymwneud â materion cyfreithiol neu statudol gyda theuluoedd amlieithog — megis y rhai sy'n ymwneud ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), Cynlluniau Datblygu Unigol (CDUau), Diogelu, neu unrhyw bynciau cyfreithiol arwyddocaol eraill — dylech nodi ei bod yn hanfodol sicrhau bod cyfieithydd achrededig yn bresennol. Gellir trefnu'r cymorth hwn drwy Wales Interpretation and Translation Service (WITS) neu Language Line (gweler y dolenni isod).
Ar gyfer cyfathrebiadau ysgrifenedig nad ydynt yn gyfreithiol, argymhellir Copilot fel teclyn cymorth cyfieithu addas.
Ar gyfer rhyngweithio anffurfiol, fel sgyrsiau bob dydd mewn lleoliadau fel y buarth chwarae, mae amrywiaeth o apiau iaith am ddim ar gael. Am awgrymiadau, cyfeiriwch at y fideo YouTube a isod.
Agorodd Gwasanaeth Cyfieithu Cymru (WITS) yn 2009 yn gweithredu 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Mae WITS yn cyrchu cyfieithwyr proffesiynol i’r sector cyhoeddus ledled Cymru mewn dros 150 o ieithoedd gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain.
Microsoft Translator ar gyfer Addysg
Creu ystafell ddosbarth fwy cynhwysol i fyfyrwyr a rhieni gyda chyfieithu ar y pryd a chapsiynau.
Adolygiad o’r 5 ap cyfieithu gorau. Edrychwch sut mae'r gwahanol apiau'n gweithio a gweld pa un allai weddu i'ch lleoliad a'ch sefyllfa orau. (Saesnyg yn unig)
Mae gwasanaeth Google, sy'n cael ei gynnig am ddim, yn cyfieithu geiriau, ymadroddion a thudalennau gwe rhwng y Saesneg a dros 100 o ieithoedd eraill ar unwaith.