Croeso i safle Google tîm ADY Cyngor Sir Powys. Yma gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y ddarpariaeth, cefnogaeth ac arweiniad a gynigir gan y tîm ADY.
Beth yr ydym yn ei wneud
Mae'r tîm ADY yn gyfrifol am weithredu a chyflawni Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) (ALNET). Fel rhan o'n cyfrifoldeb, rydym wedi creu canllawiau defnyddiol i gefnogi ysgolion, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol eraill y gallwch ddod o hyd iddynt ar y safle hwn. Rydym hefyd yn cwblhau asesiadau, yn ymateb i atgyfeiriadau a cheisiadau gan ysgolion, ac yn ateb cwestiynau dros y ffôn neu e-bost drwy ddesg gymorth o'r enw Porth Tyfu. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth fanylach yn y gwahanol adrannau o'r Wefan Google hon drwy glicio ar y botymau gwyrdd uchod.
Ein gwasanaethau
Seicoleg Addysgol
Mae'r tîm seicoleg addysgol yn cefnogi ysgolion trwy ymgynghoriadau tymhorol a darparu hyfforddiant mewn llythrennedd emosiynol i staff ysgol. Mae'r tîm seicoleg addysgol hefyd yn cwblhau asesiadau ar gyfer plant a phobl ifanc ym Mhowys.
Gwasanaethau Synhwyraidd
Mae'r tîm gwasanaeth synhwyraidd yn cefnogi dysgwyr ag anghenion synhwyraidd, gan gynnwys cefnogi gyda thechnoleg gynorthwyol, cwblhau asesiadau, ac ymweld â dysgwyr yn yr ysgol.
Athro Arbenigol
Mae'r athrawon arbenigol yn cael sesiwn galw heibio yn fisol lle gall ysgolion dderbyn cyngor ac arweiniad. Maent hefyd yn cynnal ymweliadau ysgol i asesu a chefnogi dysgwyr.
Ysgol Rithwir PDG
Mae Ysgol Rithwir Plant Sy’n Derbyn Gofal yn cynnwys rheolwr cynhwysiant a thri athro arbenigol. Maent yn cefnogi dysgwyr sy'n derbyn gofal, gan gynnwys cefnogi ysgolion gyda'r adolygiadau Cynllun Addysg Personol (PEP) statudol bob tymor.
Y Tim Addysg Deg
Mae'r tîm Addysg Deg yn cynnwys un athro arbenigol a dau gynorthwyydd addysgu ymyrraeth sy'n cefnogi dysgwyr sy'n Sipsiwn, Teithwyr Roma (GRT), ffoaduriaid/ceiswyr lloches, teuluoedd amlieithog, a phlant y fyddin.
Tîm BC ADY
Mae'r tîm ADY Blynyddoedd Cynnar yn cefnogi plant o'u genedigaeth hyd at 5 mlwydd oed. Maent hefyd yn cynnig cymorth i'w teuluoedd. Mae'r tîm hwn yn cynnal sesiynau galw heibio rhithwir wythnosol, lle gall lleoliadau dderbyn cyngor ac arweiniad.
Gweithwyr Achos
Mae ein gweithwyr achos yn cydlynu'r holl waith sy'n gysylltiedig â Chynlluniau Datblygu Unigol a gynhelir gan Awdurdodau Lleol sy'n cynnwys ysgrifennu ac adolygu'r cynlluniau hyn.
Cymorth Addysg
Mae'r tîm cymorth addysg yn gweithio ar draws yr holl wasanaeth ac yn cefnogi'r gwahanol dimau gyda'u gwaith gweinyddol. Mae'r tîm hefyd yn ateb ymholiadau a galwadau i borth Tyfu. Os oes angen unrhyw gyngor neu arweiniad arnoch, cysylltwch â ni:
01597 827108
Pwy ydyn ni?
Gweithwyr achos
Jennifer Brockwell (Rheolwr Gwaith Achos Anghenion Dysgu Ychwanegol)
Andrea Gallacher (Gweithiwr Achos a Swyddog Cyswllt Teuluol)
Carla Jones (Gweithiwr Achos a Swyddog Cyswllt Teuluol)
Ebony Price (Gweithiwr Achos a Swyddog Cyswllt Teuluol)
Olivia Ritson-Walton (Gweithiwr Achos a Swyddog Cyswllt Teuluol)
Ysgol Rithwir PDG
Lucy Wright (Athrawes Arbenigol ar gyfer PDG)
Tina Samuel (Athrawes Arbenigol ar gyfer PDG)
Elin Jones (Athrawes Arbenigol ar gyfer PDG)
Blynyddoedd Cynnar ADY
Yvonne Hockly (Swyddog Arweiniol Blynyddoedd Cynnar ADY (SABCADY)
Liz Loxton (Athrawes Arbenigol Blynyddoedd Cynnar ADY)
Annette Jones (Gweithiwr Achos ADY Blynyddoedd Cynnar a Chynorthwyydd Addysgu Ymyrraeth)
Jamie Shipley (Gweithiwr Achos ADY Blynyddoedd Cynnar a Chynorthwyydd Addysgu Ymyrraeth)
Joanne Wozencroft (Gweithiwr Achos ADY Blynyddoedd Cynnar a Chynorthwyydd Addysgu Ymyrraeth)
Cymorth Addysg
Deniz Kilic (Swyddog Cymorth Addysg)
Adam King (Cynorthwyydd Cymorth Addysg ADY)
Anne Bates (Cynorthwyydd Cymorth Addysg ADY)
Hanif Bulbulia (Cynorthwyydd Cymorth Addysg ADY)
Seicolegwyr Addysg
Dewi Hughes (Prif Seicolegydd Addysg)
Clare Jones (Seicolegydd Addysg)
Lynda Joyce (Seicolegydd Addysg)
Lily Parry (Cynorthwyydd Seicolegydd Addysg)
Y Tim Addysg Deg
Jane Watts (Athro Arbenigol ar gyfer Addysg deg)
Alison Stephens (Gweithiwr Achos ar gyfer y Tim Addysg Deg)
Gillian Bowen (Gweithiwr Achos ar gyfer y Tim Addysg Deg)
Rheolwyr
Simon Anderson (Rheolwr Wasanaeth y Gwasanaethau Cynhwysiant a Ieuenctid)
Dewi Hughes (Prif Seicolegydd Addysg)
Karen Jenkins (Rheolwr Cynhwysiant)
Heidi Piercy (Rheolwr Cynhwysiant)
Jenny Oglethorpe (Rheolwr Cymorth Cynhwysiant)
Gwasanaethau Synhwyraidd
Lyndsey John (Nam ar y Clyw)
Lynette Higgs (Nam ar y Clyw)
Paula Hamer (Nam ar y Clyw)
Sarah Harbour (Nam ar y Clyw)
Martha Rees (Nam ar y Golwg)
Vincent Barnard (Nam ar y Golwg)
Louse Edwards (Swyddog Sefydlu Arbenigol)
Athrawon Arbenigol ADY (Oedran Ysgol Statudol)
Allyson Davis (Athro Arbenigol ar gyfer Anawsterau Lleferydd ac Iaith)
Marcell Smith (Athro Arbenigol ar gyfer Anawsterau Dysgu Penodol)
Jo Powell (Athrawes Arbenigol ADY)