Ysgolion arbennig
Mae gennym dair ysgol arbennig ym Mhowys sef Ysgol Neuadd Brynllywarch, Ysgol Penmaes, ac Ysgol Robert Owen. Mae derbyniadau i'n hysgolion arbennig y tu allan i'r trefniadau derbyn safonol ar gyfer ysgolion prif ffrwd. Yn yr achos hwn, mae Panel Cynhwysiant Powys yn gweithredu fel yr awdurdod derbyn ac yn penderfynu ar y trefniadau derbyn. I gael rhagor o wybodaeth am y meini prawf derbyn, gweler y canllaw isod.
Mae Ysgol Neuadd Brynllywarch yn cefnogi dysgwyr 7 i 19 oed sydd ag anghenion dysgu ychwanegol cymhleth, emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol ochr yn ochr ag anawsterau dysgu penodol ac anghenion dysgu ychwanegol eraill. Lleolir ysgol Neuadd Brynllywarch yn y Drenewydd. Mae gan ysgol Neuadd Brynllywarch ddosbarth lloeren wedi'i leoli yn Ysgol Maes y Dderwen.
Mae Ysgol Penmaes yn cefnogi dysgwyr 3 i 19 oed sydd ag anghenion dysgu ychwanegol dwys a lluosog. Lleolir Ysgol Penmaes yn Aberhonddu. Mae gan Ysgol Penmaes ddosbarth lloeren wedi'i leoli yn Ysgol Gynradd Crossgates.
Mae Ysgol Robert Owen yn cefnogi dysgwyr 3 i 19 oed sydd ag anghenion dysgu ychwanegol dwys a lluosog. Lleolir Ysgol Robert Owen yn y Drenewydd.
Canolfannau arbenigol
Mae gennym 19 o ganolfannau arbenigol ledled Powys. Maent yn cefnogi dysgwyr gyda Chynlluniau Datblygu Unigol a gynhelir gan Awdurdodau Lleol ac maent yn gyfuniad o ddosbarthiadau prif ffrwd ac arbenigol. Mae derbyniadau i'n canolfannau arbenigol y tu allan i'r trefniadau derbyn safonol ar gyfer ysgolion prif ffrwd. Yn yr achos hwn, mae Panel Cynhwysiant Powys yn gweithredu fel yr awdurdod derbyn ac yn penderfynu ar y trefniadau derbyn.
Canolfannau arbenigol mewn ysgolion cynradd:
Builth Wells C.P.
Knighton
Llanidloes C.P.
Maesyrhandir C.P.
Welshpool C.I.W.
Ysgol Bro Tawe
Ysgol Cefnllys
Ysgol Golwg Pen y Fan
Ysgol Golwg y Cwm
Ysgol Gymraeg Dyffryn y Glowyr
Canolfannau arbenigol mewn ysgolion uwchradd:
Brecon High School
Llanidloes High School
Ysgol Calon Cymru
Ysgol Maes y Dderwen
Canolfannau arbenigol mewn ysgolion pob oed:
Ysgol Bro Hyddgen
Unedau Cyfeirio Disgyblion (Pupil Referral Units)
Mae gennym ddwy Uned Cyfeirio Disgyblion ym Mhowys, un yn y gogledd ac un yn y canolbarth/de. Mae'r UCD yn cynnig darpariaeth addysg amgen o ansawdd uchel drwy amgylchedd meithrin, cefnogol ac anogol. Mae derbyn i'n Hunedau Cyfeirio Disgyblion y tu allan i'r trefniadau derbyn safonol ar gyfer ysgolion prif ffrwd. Yn yr achos hwn, mae Panel Cynhwysiant Powys yn gweithredu fel yr awdurdod derbyn ac yn penderfynu ar y trefniadau derbyn. I gael rhagor o wybodaeth am y meini prawf derbyn, gweler y canllaw isod.
Lleolir Uned Cyfeirio Disgyblion y Gogledd yn y Drenewydd ac mae Uned Cyfeirio Disgyblion y De wedi'i lleoli yn Aberhonddu .
Ysgolion prif ffrwd
Mae gennym 80 o ysgolion prif ffrwd ym Mhowys, 69 ysgol gynradd, 8 uwchradd, a 3 ysgol pob oed. Mae'r ddogfen isod yn cynnwys rhestr o bob ysgol ochr yn ochr â pha glwstwr y maent yn perthyn iddo. Dilynwch y ddolen hon i wneud cais am le yn un o'n hysgolion prif ffrwd: Gwneud Cais am Le Mewn Ysgol - Cyngor Sir Powys
I gael rhagor o wybodaeth am ysgol benodol, ewch i wefan eu hysgol.