Mae Cyngor Sir Powys wedi creu sawl canllaw i ysgolion i'w gwneud hi'n haws i chi gyflawni eich dyletswyddau o dan ALNET. Rydym hefyd wedi recordio demos ar gyfer staff newydd y gallwch eu defnyddio yn ystod y cyfnod sefydlu. Isod, gallwch ddod o hyd i ddolenni a disgrifiadau i’r canllawiau a’r demos Tyfu amrywiol sydd ar gael ichi.
Canllaw Defnyddwyr Tyfu
Mae Canllaw Defnyddwyr Tyfu yn ganllaw cynhwysfawr ar blatfform Tyfu. Mae’n esbonio gwahanol adrannau Tyfu ac yn rhoi esboniad cam wrth gam i swyddogaethau sylfaenol fel creu cyfrifon defnyddwyr a chyflwyno atgyfeiriadau.
Gwahoddiadau i Ganllaw Defnyddwyr Tyfu
Mae’r Gwahoddiadau i Ganllaw Defnyddwyr Tyfu yn esbonio sut i dderbyn gwahoddiadau i weld proffil disgybl o safbwynt y sawl sy'n cael ei wahodd. Argymhellir anfon hwn at rieni neu weithwyr proffesiynol pan fyddant yn cael eu gwahodd i broffil ar Tyfu.
Canllaw Ysgolion i CDU
Mae hwn yn brif ganllaw i CDU ac mae’n cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ynglŷn â CDU, gan gynnwys adrannau ar amserlenni statudol, sut i gwblhau’r CDU ar Tyfu, cyhoeddi’r CDU cyfreithiol, cyfeirio’r CDU at yr ALl, pontio, a dod â’r CDU i ben.
Mae’r Canllaw Ysgol i’r Ddyletswydd i Benderfynu yn egluro sut i gofnodi a chyflawni dyletswyddau’r ysgol pan fo dyletswydd i benderfynu yn codi, gan gynnwys beth yw dyletswydd i benderfynu.
Egwyddorion Rhesymoldeb DDdY (ALP) CSP
Mae’r ddogfen hon yn nodi egwyddorion rhesymoldeb y Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol (DDdY) ac o dan ba amgylchiadau y byddai’n afresymol i ysgolion ddarparu’r DDdY sydd ei angen i gefnogi disgybl. Mae hon yn ddogfen bwysig i gyfeirio ati cyn cyfeirio CDU at yr ALl.
Canllaw Ysgolion ynghylch Atgyfeiriadau i'r ALl
Mae'r 'Canllaw Ysgolion ar Atgyfieiro’ isod yn esbonio o dan ba amgylchiadau i wneud atgyfeiriadau i Banel Cynhwysiant Powys a’r gweithredu a deilliannau posibl ar gyfer yr ysgol a’r Awdurdod Lleol. Y mae hefyd yn cynnwys 2 adrannau:
1: Ymagwedd Raddedig at Anghenion Cefnogi – mae hwn yn esbonio 4 cam ymateb graddedig at angen, pa weithredu/ymyrraeth i’w ceisio, y deilliannau a’r camau nesaf. Mae hyn yn cynnwys camau sydd angen cael eu cymryd cyn bod atgyfeiriad yn cael ei wneud gan yr awdurdod.
1: Mynediad at Gyngor Proffesiynol yr ALl – mae’n rhoi gwybodaeth bellach am sut i gael mynediad at gyngor a chefnogaeth broffesiynol yr ALl.
Tyfu Demo 1. Navigating Tyfu
Mae hwn yn gyflwyniad PowerPoint wedi'i leisio gyda recordiadau sgrin o Tyfu. Mae'r arddangosiad hwn yn mynd â chi drwy ddangosfwrdd Tyfu, rhestrau disgyblion, a mwy ac mae wedi'i anelu at staff newydd nad ydynt erioed wedi defnyddio Tyfu neu'r rhai a hoffai gael sesiwn gloywi.
Tyfu Demo 2. Navigating Tyfu Profiles
Demo Tyfu 2. Mae Navigating Tyfu Profiles yn gyflwyniad PowerPoint wedi'i leisio gyda recordiadau sgrin o Tyfu. Mae’r arddangosiad hwn yn mynd â chi drwy’r 3 math o broffiliau ar Tyfu a sut i fynd drwyddynt. Mae'r cyflwyniad hwn wedi'i anelu at staff newydd nad ydynt erioed wedi defnyddio Tyfu neu'r rhai a hoffai gael sesiwn gloywi.
Tyfu Demo 3. Referrals
Mae hwn yn gyflwyniad PowerPoint wedi'i leisio gyda recordiadau sgrin o Tyfu. Mae'r arddangosiad hwn yn rhoi esboniad manwl o sut i wneud atgyfeiriad ar Tyfu, pa dystiolaeth sydd ei hangen ar gyfer atgyfeiriadau a sut i ddilyn yr ymateb graddedig, a beth sy'n digwydd gyda'ch atgyfeiriad ar ôl i chi ei gyflwyno.
Canllawiau Llywodraeth Cymru
Y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol
Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol ar Tribiwnlys Addysg (Cymru)
Taflen Ffeithiau am ADY ar Gyfer Meithrinfeydd ac Ysgolion Gynhelir