Croeso i adran Grwpiau sy’n Agored i Niwed ar wefan Google Cynhwysiant Powys. Mae'r tîm Grwpiau sy’n Agored i Niwed yn cynnwys un athro arbenigol a dau weithiwr achos sydd yma i gefnogi ysgolion a'u disgyblion sy’n agored i niwed. Y grwpiau o ddisgyblion yr ydym yn eu cefnogi yw: Sipsiwn, Roma, Teithwyr (SRT), ffoaduriaid a cheiswyr lloches, amlieithog/Saesneg fel Iaith Ychwanegol (SIY)/Cymraeg fel Iaith Ychwanegol (CIY), a phlant milwyr.
Os oes gennych unrhyw bryderon neu os hoffech drafod sut y gallai'r tîm gefnogi eich teulu neu ysgol, gallwch gysylltu â:
Jane Watts – Athro Arbenigol ar gyfer Addysg Deg jane.watts@powys.gov.uk
Alison Stephens – Gweithiwr Achos ar gyfer y Tîm Addysg Deg alison.stephens@powys.gov.uk
Gillian Bowen – Gweithiwr Achos ar gyfer y Tîm Addysg Deg gillian.bowen@powys.gov.uk
Cliciwch ar y botymau isod am wybodaeth ynglŷn â grŵp penodol sy'n agored i niwed.
Casglu Gwybodaeth ar gyfer Disgyblion SIY a Ffoaduriaid
Cymraeg/Saesneg fel Iaith Ychwanegol (CIY/SIY) a Pholisi Dysgwyr Amlieithog
Holiadur Lles Grwpiau sy’n Agored i Niwed
Llywodraeth Cymru Canllawiau ar wella lefelau ymgysylltu a phresenoldeb dysgwyr
Dilynwch y dull haenog i gael mynediad at gymorth/ymyrraeth benodol ar gyfer disgybl yn eich ysgol. Gellir dod o hyd i fanylion am y dull haenog yn y ddogfen hon: