Ym Mhowys, mae gennym dair system i gefnogi dysgwyr ag anghenion sy'n dod i'r amlwg ac ADY. Nhw yw platfform Tyfu, porth Tyfu, a Phanel Cynhwysiant Powys (PIP).
Mae platfform Tyfu yn wefan lle rydym yn storio'r holl wybodaeth sy'n gysylltiedig â'ch ADY. Bydd eich proffil Tyfu yn eich dilyn drwy gydol eich addysg ym Mhowys. Mae hyn yn sicrhau, os byddwch yn symud ysgol, y bydd gan eich ysgol newydd fynediad at eich dogfennau. Defnyddir platfform Tyfu hefyd gan ysgolion i gyflwyno atgyfeiriadau a gofyn am gymorth. Gallwch gael mynediad at eich proffil drwy gysylltu â'r ysgol (mwy o wybodaeth am hyn isod).
Mae porth Tyfu yn ddesg gymorth dros y ffôn a drwy e-bost. Gallwch gysylltu â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich hawliau, y cymorth rydych chi'n ei derbyn, neu unrhyw beth arall sy'n gysylltiedig â'ch anghenion dysgu. Dyma'r manylion cyswllt:
E-bost: tyfu@powys.gov.uk
Ffôn: 01597 827 108
Mae Panel Cynhwysiant Powys (PIP) yn cyfarfod bob pythefnos yn ystod y tymor i drafod atgyfeiriadau a cheisiadau gan ysgolion. Gweler tudalen Panel Cynhwysiant Powys am ragor o wybodaeth am hyn.
Yn ôl y gyfraith Anghenion Dysgu Ychwanegol, mae plant yn cael eu dosbarthu fel unrhyw un hyd at 16 oed, a phobl ifanc yw 16 i 25 oed.
Fy Nghynllun Datblygu Unigol - canllaw hawdd ei ddarlen
Fy Nghynllun Datblygu Unigol - canllaw i bobl ifanc
Fy Nghynllun Datblygu Unigol - canllaw i bobl ifan sy'n derbyn gofal
Fy Adolygiad Blynyddol - canllaw i bobl ifanc
Fy CDU pan fyffay yn gadael yr ysgol - canllaw i bobl ifanc
Cael mynediad i'ch proffil Tyfu
I gael mynediad at eich proffil Tyfu, cysylltwch â Chydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CydADY) yr ysgol. Byddant yn anfon gwahoddiad atoch sy'n mynd yn syth i'ch cyfeiriad e-bost. Yna gallwch ddefnyddio’r canllaw isod i gael cyfarwyddiadau cam wrth gam.
Eich hawliau o dan y cod ADY
Fel person ifanc (16-25 oed), mae gennych chi hawliau penodol o dan y cod ADY. Mae’r hawliau hyn yn cynnwys:
Tynnu caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg ar gyfer asesiadau parhaus
Penderfynu pwy all weld y wybodaeth ar eich proffil Tyfu
Atgyfeirio eich hun i gael eich asesu ar gyfer ADY
Rhaid i'ch ysgol neu SAB gael eich caniatâd ar gyfer unrhyw asesiad
Dyletswyddau'r ysgol yn unol â'r Ddeddf ADY
Rhaid i ysgolion eich cefnogi os oes gennych anghenion dysgu sy'n dod i'r amlwg a/neu anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Bydd yr ysgol yn eich cefnogi gyda chynllun gwahanol yn dibynnu ar eich lefel o angen. Er enghraifft, os oes gennych anghenion sy'n dod i'r amlwg, byddwch yn cael eich cefnogi gan Gynllun Darpariaeth Ddysgu Cyffredinol (cynllun Rhaglen Ddysgu Cyffredinol). Mae'r cynlluniau hyn yn gosod targedau tymor byr y bydd yr ysgol yn eich helpu i'w cyflawni. Mae enghreifftiau o ddarpariaeth y gallech eu gweld mewn Cynlluniau Rhaglen Ddysgu Cyffredinol yn cynnwys gwaith grŵp bach, gwersi ychwanegol, neu ymyriadau ar raddfa fach. Os oes gennych ADY, bydd gofyn i'ch ysgol ysgrifennu Cynllun Datblygu Unigol (CDU Ysgol) a gynhelir gan yr ysgol, sef cynllun sy'n rhwymo'n gyfreithiol sy'n amlinellu eich anghenion a'r cymorth y byddwch yn ei derbyn. Rhaid i'r ysgol a chithau adolygu CDU yn flynyddol i olrhain a monitro eich cynnydd.
Mae'r awdurdod lleol yn cynnig cymorth i ysgolion ar ffurf ymgynghoriadau unigol, asesiadau, ymweliadau ag ysgolion, a chyngor cyffredinol. Rhaid i ysgolion gymryd pob cam perthnasol i'ch cefnogi yn seiliedig ar eich angen. Gallant wneud hyn drwy gyflwyno ceisiadau ac atgyfeiriadau i'r awdurdod lleol drwy blatfform Tyfu. Fel person ifanc, gallwch weld yr holl geisiadau ac atgyfeiriadau y mae'r ysgol wedi'u cyflwyno i'r awdurdod lleol a'r canlyniadau yn y tab "atgyfeiriad awdurdod" ar eich proffil Tyfu.
Gall ysgolion, dysgwyr a rhieni ofyn i'r awdurdod lleol gymryd drosodd cynnal a chadw CDU Ysgol os nad yw'r dysgwr yn gwneud cynnydd, gan ei wneud yn CDU Awdurdod Lleol (CDU ALl).
Cwestiynau Cyffredin am y CDU ar gyfer pobl ifanc
Beth yw CDU?
Mae CDU, neu gynllun datblygu unigol, yn ddogfen gyfreithiol y mae Cyngor Sir Powys yn ei chynnal ar blatfform Tyfu. Mae’r CDU yn amlinellu eich anghenion ADY, eich proffil un dudalen, a’r ddarpariaeth dysgu ychwanegol (DDY) sydd ei hangen arnoch i gefnogi eich dysgu. Adrannau’r CDU yw:
Proffil un dudalen
Meysydd angen
Llinell amser o ddigwyddiadau allweddol
DDY/ALP
Cyfathrebu
Amdanaf i
Pontio
Beth yw diffiniad ADY o dan God Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021?
Mae gan berson anghenion dysgu ychwanegol os oes ganddo anhawster dysgu neu anabledd (boed yr anhawster dysgu neu anabledd yn deillio o gyflwr meddygol neu fel arall) sy’n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (ALP).
Mae dau brawf yn y cod y mae'n rhaid i ysgolion ac awdurdodau lleol (ALl) eu defnyddio i benderfynu a oes gan ddysgwr ADY.
Prawf 1: A oes gan y plentyn anhawster dysgu neu anabledd?
i. A yw'r plentyn yn cael llawer mwy o anhawster wrth ddysgu na'r mwyafrif o blant eraill o'r un oedran, neu
ii. anabledd (o fewn ystyr Deddf Cydraddoldeb 2010) sy’n atal neu’n rhwystro’r plentyn rhag gwneud defnydd o gyfleusterau ar gyfer addysg neu hyfforddiant o fath a ddarperir yn gyffredinol ar gyfer eraill o’r un oedran mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir.
Prawf 2: Ydy'r anhawster dysgu neu anabledd yn galw am DDY?
Datrys anghytundeb
Efallai y byddwch yn anghytuno â phenderfyniad a wnaed gan yr ysgol neu'n anhapus â'r cymorth a gewch. Mae CSP yn annog y dylid trafod pob anghytundeb yn gyntaf gyda'r ysgol. Os ydych yn dal yn anhapus, gallwch gysylltu â phorth Tyfu a gofyn i ni ailystyried eich achos ym Mhanel Cynhwysiant Powys (PIP).
Os yw’ch achos eisoes wedi’i drafod gan yr ALl a’ch bod yn anhapus â’r penderfyniad y mae PIP wedi’i wneud, gallwch ofyn i’r Panel Datrys Anghytundeb adolygu’r achos, os oes gennych wybodaeth ychwanegol a allai effeithio ar ganlyniad y penderfyniad. Gallwch hefyd gysylltu â’r gwasanaeth eiriolaeth annibynnol, SNAP Cymru ar 0808 8010608 neu gweler https://www.snapcymru.org/contact/ .
Mae gennych hefyd hawl i apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru a gofyn iddynt adolygu rhai o elfennau’r CDU.
Mae manylion cyswllt y Tribiwnlys fel a ganlyn:
Tribiwnlys Addysg Cymru
Uned Tribiwnlysoedd Cymru
Blwch SP 100
Llandrindod
LD1 9BW
Ffôn: 0300 025 9800
E-bost: educationtribunal@gov.wales neu tribunal.enquiries@gov.wales
Canllawiau Llywodraeth Cymru
ADY Canllaw i Blant
Taflen ffeithiau am ADY ar gyfer plant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr
ADY Canllaw Pobl Ifanc