8.2.21 - 12.2.21

Cofiwch y gallwch gwblhau eich gwaith yn eich llyfrau neu arlein. Cofiwch ddanfon unrhyw waith neu unrhyw gwestiynau sydd gyda chi ata' i ar e-bost: williamsh19@hwbcymru.net

Remember that you can complete your work in your books or online. Remember to e-mail any work to me, or if you have any questions about the work, send an e-mail: williamsh19@hwbcymru.net

Diolch yn fawr.

Band yr wythnos / Band of the week:

Yr artist yr wythnos hon yw Mr Phormula. Bydd fersiwn newydd o nifer o ganeuon albwm ‘Tiwns’ gan Mr Phormula yn cael ei ryddhau ar 12 Chwefror. Gwrandewch ar y sengl 'Normal Newydd' isod.

This weeks Welsh artist is Mr Phormula. He will be releasing new versions of a number of tracks from the album 'Tiwns' on the 12th February. Listen to the single 'Normal Newydd' below.

Gwrandewch ar un o gigs Mr Phormula hefyd. / Listen to one of Mr Phormula's gigs too.

Patrwm iaith yr wythnos / Language pattern of the week:

Cliciwch ar gyflwyniad Miss Williams cyn dechrau ar y tasgau isod.

Click on Miss Williams' presentation before beginning the tasks:

ymadroddion mynegi barn.mp4

Yr wythnos hon rydyn ni'n mynd i barhau i ddefnyddio ymadroddion yn ymwneud a mynegi ein barn.

e.e.

Yn fy marn i ... yw'r gorau achos ...

Rydw i'n hoffi ... oherwydd...

Dydw i ddim yn hoffi ... achos...

Mae'n gas gen i ... oherwydd...

This week I would like you to continue to practise expressing your opinion.

e.g.

Yn fy marn i... yw'r gorau achos ... ( In my opinion ... is best... because...)

Rydw i'n hoffi ... oherwydd... (I like ... because...)

Dydw i ddim yn hoffi ... achos... ( I don't like ... because ...)

Mae'n gas gen i ... oherwydd... ( My least favourite thing is ... because ...)

Defnyddiwch y gemau isod i'ch helpu i ymarfer y patrwm iaith. / Use the games below to help you with the language pattern.

Y Cyfnod Sylfaen / The Foundation Phase:

Cyfnod Allweddol 2 / Key Stage 2:

Apiau'r wythnos / Apps of the week:

Y Cyfnod Sylfaen / The Foundation Phase:

Cardiau Disgriblo / Disgriblo cards:

Tasgau darllen a deall byrion ydy Cardiau Disgriblo. Darllenwch y geiriau neu'r brawddegau a thynnwch luniau i gyfateb. / Disgriblo cards are short reading comprehension activities. Pupils respond to the words and sentences by drawing pictures.

Cyfnod Allweddol 2 / Key Stage 2:

Aur am Air

Ap cyffrous deniadol o weithgareddau a gemau rhyngweithiol i gefnogi sgiliau sillafu yn y Gymraeg. / An exciting and attractive app that promotes Welsh spelling skills through a series of interactive games for children


Digwyddiadau Menter iaith BGTM /

BGTM's Welsh language events

Mae Menter iaith BTGM yn cynnal sesiynau 'Ymarfer Corff' ac 'Amser Chwarae' yn wythnosol ar Zoom. Mae hwn yn gyfle gwych i blant o'r dosbarth derbyn i flwyddyn 6 i chwarae a defnyddio'u Cymraeg. Gweler yr hysbysebion isod am fwy o fanylion.

BTGM's Welsh language enterprise holds Welsh fitness sessions and Playtime sessions every week on Zoom. These sessions are a great opportunity for children from Reception to Year 6 to use their Welsh in a fun and social setting. See the adverts below for more information.