25.1.21 - 29.1.21

Cofiwch y gallwch gwblhau eich gwaith yn eich llyfrau neu arlein. Cofiwch ddanfon unrhyw waith neu unrhyw gwestiynau sydd gyda chi ata' i ar e-bost: williamsh19@hwbcymru.net

Remember that you can complete your work in your books or online. Remember to e-mail any work to me, or if you have any questions about the work, send an e-mail: williamsh19@hwbcymru.net

Diolch yn fawr.

Band yr wythnos / Band of the week:


Yr artist yr wythnos hon yw Gwilym Bowen Rhys. Gwrandewch ar y sengl 'Byta Dy Bres'.

Our artist of the week is Gwilym Bowen Rhys. Listen to his single ' Byta Dy Bres'.

Patrwm iaith yr wythnos / Language pattern of the week:


Cliciwch ar gyflwyniad Miss Williams cyn dechrau ar y tasgau isod.

Click on Miss Williams' presentation before beginning the tasks:

dril iaith .mp4

Yr wythnos hon hoffwn i chi ail ymweld â'r patrwm 'Faint o ...? ' ond y tro yma rydyn ni'n mynd i edrych ar ddweud yr amser:

e.e..

Faint o'r gloch ydy hi? Mae hi'n amser gwely. Mae hi'n 10 o'r gloch?

Faint o amser sydd ar ôl nes bod hi'n amser cinio? Mae 10 munud nes amser cinio.

Faint o'r gloch wyt ti'n mynd i'r gwely? Rydw i'n mynd i'r gwely am 8 o'r gloch.

This week I would like you to revisit the pattern 'Faint o ...? (What ...?). but this time we are going to look at telling the time

e.g.

Faint o'r gloch ydy hi? ( What time is it?) Mae hi'n amser gwely. ( It's time for bed.) Mae hi'n 10 o'r gloch? (It's 10 o'clock.)

Faint o amser sydd ar ôl nes bod hi'n ...? ( How much time is left until ...?) Mae 10 munud nes amser cinio. ( There's 10 minutes before lunchtime.)

Faint o'r gloch wyt ti'n mynd i'r gwely? ( What time do you go to bed?) Rydw i'n mynd i'r gwely am 8 o'r gloch. ( I go to bed at 8 o'clock.)

Gemau'r wythnos / Games of the week:


Dewch i ymarfer patrwm iaith yr wythnos / Come and practise our language pattern:

Apiau'r wythnos / Apps of the week:


Y Cyfnod Sylfaen / The Foundation Phase:

Ap Antur Cyw / Antur Cyw app:

Croeso i Ap Antur Cyw, lle i ddysgwyr ddysgu, chwarae, a chael hwyl. Wy ti'n gallu cyfri ar y fferm? Wy ti'n gallu helpu Cyw gyda llythrennau yn y ffair? Wy ti'n gallu paru siapiau'r picnic? Beth am daith ar y trên sillafu? Beth am bod yn greadigol gyda lliwiau yn yr adeilad gelf?

Welcome to Ap Antur Cyw, a place for children to learn, play and have fun. Can you count on the farm? Can you help Cyw with letters at the fair? Can you pair the picnic shapes? What about a trip on the spelling train? How about being creative in the art building?

https://hwb.gov.wales/repository/discovery/resource/3394020e-b0e4-4c14-a5ce-2e814350d18d/cy?sort=recent&catalogs=1d058d90-af42-4ce4-bbf2-ba794a95aa55&strict=1


Cyfnod Allweddol 2 / Key Stage 2:

Ap Ein Byd / Our World app:

Cylchgrawn digidol dwyieithog ar-lein am ddim yw 'Ein Byd' ac mae’n llawn erthyglau amserol a gweithgareddau sy’n cyd-fynd â chwricwlwm newydd Cymru. Prif ffocws yr adnodd yw rhoi un gyrchfan ar-lein i rieni ac athrawon, a honno’n cynnig deunydd newydd yn gyson i'w ddefnyddio fel sbardun ar gyfer dysgu yn yr ysgol neu gartref.

‘Our world’ is a free online bilingual digital magazine full of topical articles and activities aligned to the new Curriculum for Wales. The main focus of the resource is to give parents and teachers a single online destination with regular new content to use as a springboard for learning at school or at home.

Digwyddiadau Menter iaith BGTM / BGTM's Welsh language events:


Mae Menter iaith BTGM yn cynnal sesiynau 'Ymarfer Corff' ac 'Amser Chwarae' yn wythnosol ar Zoom. Mae hwn yn gyfle gwych i blant o'r dosbarth derbyn i flwyddyn 6 i chwarae a defnyddio'u Cymraeg. Gweler yr hysbysebion isod am fwy o fanylion.

BTGM's Welsh language enterprise holds Welsh fitness sessions and Playtime sessions every week on Zoom. These sessions are a great opportunity for children from Reception to Year 6 to use their Welsh in a fun and social setting. See the adverts below for more information.