4.1.21 - 8.1.21

Cofiwch y gallwch gwblhau eich gwaith yn eich llyfrau neu arlein. Cofiwch ddanfon unrhyw waith neu unrhyw gwestiynau sydd gyda chi ata' i ar e-bost: williamsh19@hwbcymru.net

Remember that you can complete your work in your books or online. Remember to e-mail any work to me, or if you have any questions about the work, send an e-mail: williamsh19@hwbcymru.net


Diolch yn fawr.

4ydd - 8fed o Ionawr 2021 - 4th - 8th January 2021:

Band yr wythnos -Band of the Week:

Cân yr wythnos hon yw 'Dwylo Dros y Môr'. Cafodd y gân ei recordio'n wreiddiol dros 35 mlynedd yn ôl fel cân elusennol. Mae'r gân wedi cael ei ail recordio eto gan amryw o artistiaid Cymraeg cyfoes i godi arian i helpu pobl yn ystod cyfnod y coronafeirws.

Our song of the week is 'Dwylo Dros y Môr'. The song was originally recorded over 35 years ago as a charity song. It has been re-released again by a variety of modern Welsh artists to raise money to help people during the coronavirus.

https://youtu.be/yZjgr6pJD48

Patrwm Iaith yr wythnos- Language pattern of the week:

Gwybodaeth Siarter Iaith (1) (1) (3)

Mae patrwm iaith yr wythnos hon yn gyfle i chi drafod eich emosiynau a'ch teimladau gan ddefnyddio'r patrymau isod. Ceisiwch gynnwys rheswm i egluro pam rydych chi'n teimlo fel hyn,

Rydw i'n teimlo'n hapus pan rydw i allan yn chwarae yn yr awyr agored.

Rydyn ni'n teimlo'n gyffrous oherwydd rydyn ni'n mynd am dro.

Mae fy mrawd yn teimlo'n grac ar ôl cael stŵr gan fy mam.

Dydw i ddim yn teimlo'n hapus oherwydd mae'n rhaid i mi dacluso fy ystafell wely.

Dydyn ni ddim yn teimlo'n gyffrous oherwydd rhaid i ni wneud ein gwaith cartref.

Dydy Ben ddim yn gwenu ar ôl cael stŵr gan ei fam.

The language pattern this week will give you the opportunity to discuss your emotions and feelings by using the following sentence structures. Try and include a reason to justify your ideas.

Rydw i'n teimlo'n hapus pan rydw i allan yn chwarae yn yr awyr agored. ( I feel happy when I play outside in the fresh air.)

Rydyn ni'n teimlo'n gyffrous oherwydd rydyn ni'n mynd am dro. ( We are feeling excited because we are going for a walk.)

Mae fy mrawd yn teimlo'n grac ar ôl cael stŵr gan fy mam. ( My brother is feeling cross after being told off by my mum.)

Dydw i ddim yn teimlo'n hapus oherwydd mae'n rhaid i mi dacluso fy ystafell wely. ( I am not feeling happy because I have to tidy my bedroom.)

Dydyn ni ddim yn teimlo'n gyffrous oherwydd rhaid i ni wneud ein gwaith cartref. ( We are not feeling excited because we have to do homework.)

Dydy Ben ddim yn gwenu ar ôl cael stŵr gan ei fam. ( Ben is not smiling after being told off by his mum.)

Gêm iaith yr wythnos - Language game of the week:

Enw gêm yr wythnos hon yw 'MaMa Moo!' Mae’r gêm yma yn gyfle i drafod gwahanol emosiynau.

Dechreuwch drwy restri neu dynnu lluniau o wahanol emosiynau ar ddarnau o bapur.

Rhowch y darnau papur mewn het neu fag.

Cymerwch dro i dynnu emosiwn allan o’r het.

Actiwch allan yr emosiwn i weddill y grŵp gan ddefnyddio'ch wynebau a'r geiriau ‘MaMa Moo!’ yn unig.

Yr unigolyn sy’n dyfalu’r emosiwn sy’n mynd nesaf.

This weeks language game is called 'MaMa Moo!' The aim of the game is to act out different emotions.

Begin by writing or drawing pictures of different emotions on pieces of paper.

Place them in a hat or a bag.

Take turns to act out one of the emotions using facial expressions and the words 'MaMa Moo!' only.

The person who guesses the emotion correctly goes next.

t-s-1056-how-do-you-feel-today-emotions-chart-_ver_4.pdf
WL-T-S-1056-Sut-wyt-tin-teimlo-heddiw-Siart-emosiwn_ver_1.pdf

Apiau'r wythnos - Apps of the week:

Ap Cadw'n heini - Cadw'n heini app:

Mae ap Cadw'n heini yn cynnwys nifer o weithgareddau hwylus yn ymwneud â chadw'n heini. Beth am fynd ati i geisio rhai ohonyn nhw?

The Cadw'n heini app consists of a variety of enjoyable tasks about keeping fit. How about trying some of these activities at home?

https://hwb.gov.wales/repository/resource/c3ef2e8f-054a-4a9c-b966-a079e0d6477a/cy


ab7e24a5-0f28-459a-8fed-bb20c06ff879 (1)