Y Siarter Iaith
Band yr wythnos - Band of the week:
Ein hartist yr wythnos hon yw Lisa Pedrick. Dewch i wrando arni hi'n canu'r gân' Fel yr Hydd'.
Our artist of the week is Lisa Pedrick. Come and listen to her singing the song 'Fel yr Hydd.'
Patrwm iaith yr wythnos - Language pattern of the week:
Yr wythnos hon rydyn ni'n mynd i ymarfer gofyn ac ateb cwestiynau gan ddefnyddio'r patrymau isod.
Gaf fi ... ? - Gaf fi ddiod?, Gaf fi fynd allan i chwarae?
Cei, fe gei di ddiod. Cei, fe gei di fynd allan i chwarae.
Na chei, gei di ddim diod. Na chei, gei di ddim fynd allan i chwarae.
Gawn ni ... ? Gawn ni ddiod? Gawn ni fynd allan i chwarae?
Cewch, fe gewch chi ddiod. Cewch, fe gewch chi fynd allan i chwarae.
Na chewch, gewch chi ddim diod. Na chewch, gewch chi ddim fynd allan i chwarae.
This week we are going to practise asking and answering questions using the following language patterns.
Gaf fi ... ? ( Can I...?) - Gaf fi ddiod? ( Can I have a drink?), Gaf fi fynd allan i chwarae? ( Can I go out to play?)
Cei, fe gei di ddiod. ( Yes, you can have a drink.) Cei, fe gei di fynd allan i chwarae. ( Yes, you can go out to play.)
Na chei, gei di ddim diod. ( No, you can't have a drink.) Na chei, gei di ddim fynd allan i chwarae. ( No, you can't go out to play.)
Gawn ni ... ? ( Can we ...?) Gawn ni ddiod? ( Can we have a drink?) Gawn ni fynd allan i chwarae? ( Can we go out to play?)
Cewch, fe gewch chi ddiod. ( Yes, you can have a drink.) Cewch, fe gewch chi fynd allan i chwarae. ( Yes, you can go out to play.)
Na chewch, gewch chi ddim diod. ( No, you can't have a drink.) Na chewch, gewch chi ddim fynd allan i chwarae. ( No, you can't go out to play.)
Apiau'r wythnos - Apps of the week:
Ap Heriau Cymraeg - Heriau Cymraeg app:
Cyfres o heriau i annog dysgwyr y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 Cymraeg i gael hwyl yn defnyddio eu Cymraeg yn gymdeithasol.
A series of challenges to encourage Foundation Phase and Key Stage 2 Welsh learners to have fun using their Welsh socially.
Rhaglen yr wythnos - Programme of the week:
Mae Fflic a Fflac wedi bod yn brysur yn ystod y cyfnod clo. Mae nhw wedi creu fideo newydd sbon heb adael eu tai. Dewch i wylio'r rhaglen.
Fflic and Fflac have been busy during the lockdown period. They have created a new video for you to enjoy. Come and watch the video.