6.11.20
Band yr wythnos - Band of the week:
Yr artist yr wythnos hon yw Parisa Fouladi sydd yn dod o Gaerdydd. Gwrandewch ar ei sengl newydd ' Achub Fi'.
Our artist of the week is Parisa Fouladi who comes from Cardiff. Listen to her new single 'Achub Fi.'
https://www.youtube.com/watch?v=qfm2popHsh0
Cliciwch ar y linc isod i wrando ar fwy o ganeuon Parisa Fouladi.
Click on the link below to listen to some other tracks by Parisa Fouladi.
Patrwm iaith yr wythnos -
Language pattern of the week:
Yr wythnos hon rydyn ni'n mynd i ymarfer defnyddio 'ydy' a 'nac ydy' neu 'ydyn' a 'nac ydyn' i ateb cwestiynau. Os ydy cwestiwn yn dechrau gyda'r gair 'Ydy...?' yna rhaid defnyddio ydy neu nac ydy i ateb y cwestiwn.
Dyma enghreifftiau i chi;
Ydy hi'n heulog heddiw?
Ydy, mae hi'n heulog heddiw.
Nac ydy, dydy hi ddim yn heulog heddiw.
Rydyn ni'n defnyddio 'ydyn' a 'nac ydyn' os ydyn ni'n cyfeirio at fwy nag un person neu wrthrych.
e.e. Ydy Ben a Tom yn gwisgo eu cotiau?
Ydyn, mae Ben a Tom yn gwisgo eu cotiau.
Nac ydyn, dydy Ben a Tom ddim yn gwisgo eu cotiau.
Ydy'r plant yn eistedd ar y carped?
Ydyn maen nhw'n eistedd ar y carped.
Nac ydyn dydyn nhw ddim yn eistedd ar y carped.
This week we are going to practise using 'ydy' and 'nac ydy' to answer questions. If a question begins with the word 'Ydy...?' then we use 'ydy' or ' nac ydy' to answer the question.
Look at the examples below;
Ydy hi'n heulog heddiw? ( Is it sunny today?)
Ydy, mae hi'n heulog heddiw. ( Yes, it's sunny today.)
Nac ydy, dydy hi ddim yn heulog heddiw. ( No, it's not sunny today.)
We use 'ydyn' or 'nac ydyn' when referring to more than one person or object.
e.e. Ydy Ben a Tom yn gwisgo eu cotiau? ( Are Ben and Tom wearing their coats?)
Ydyn, mae Ben a Tom yn gwisgo eu cotiau. ( Yes, Ben and Tom are wearing their coats.)
Nac ydyn, dydy Ben a Tom ddim yn gwisgo eu cotiau. ( No, Ben and Tom are not wearing their coats.)
Ydy'r plant yn eistedd ar y carped? ( Are the children sat on the carpet?)
Ydyn maen nhw'n eistedd ar y carped. ( Yes, they are sat on the carpet.)
Nac ydyn dydyn nhw ddim yn eistedd ar y carped. ( No, they are not sat on the carpet.)
Gêm iaith - Beth sydd yn y bag? /
Language Game - What's in the bag?
Chwaraewch y gêm iaith isod i ymarfer y patrwm iaith gyda aelodau eich teulu a'ch ffrindiau.
Play the following language game to practise using the language pattern with your friends and family.
Apiau'r wythnos - Apps of the week:
Y Cyfnod Sylfaen - The Foundation Phase:
Ap Odliadur - Odliadur app:
Adnodd rhyngweithiol a gwreiddiol ar gyfer plant rhwng 3 a 7 oed, sy'n cynnwys gemau a gweithgareddau yn seiliedig ar odli er mwyn cefnogi ac annog eu dealltwriaeth a defnydd o odlau.
An interactive, original resource for 3 to 7 year olds, including games and activities based on rhymes to support and encourage their understanding and use of rhymes.
Cyfnod Allweddol 2 - Key Stage 2:
Ap Gloywi Iaith - Gloywi Iaith app:
Mae Gloywi Iaith yn ap sy'n rhoi sylw i ddatblygu sgiliau llafar ac ysgrifenedig disgyblion mewn ffordd hwylus. Defnyddiwch yr adran 'Bwrlwm Berfau' yr wythnos hon i ddatblygu eich gwybodaeth am ferfau.
Gloywi Iaith is an app which helps children develop their Welsh oracy and writing skills in a practical way. Use 'Bwrlwm Berfau' this week to develop your understanding of verbs.