Y GROMLECH
ADNODDAU I YSGOLION SIR BENFRO
Ein stori ni - Traed... cam... a naid!
Y Preselau / The Preseli Hills
Dyma fwy o luniau i chi eu hystyried. Beth yw'r cysylltiad?
O'N BRO I'R BYD
Dechrau wrth ein traed
Cam i weld Cymru
A naid i weld y byd!
Munud i feddwl
Dydy bryniau’r Preseli ddim yn uchel – 536 metr ar eu huchaf – ond, mae hon yn ardal llawn drama. Mae’r rhosydd, gweunydd, a’r glaswelltir yma’n gynefin i bob math o blanhigion a phryfed, gan gynnwys rhai sy’n eithaf prin. Ar ddiwrnod clir cewch olygfa 360 gradd yr holl ffordd i Eryri a thros y môr i Iwerddon. Yr Heol Aur yw’r enw am asgwrn cefn Bryniau Preseli. Yn ôl y sôn, mae’r llwybr 8 milltir yma yn dyddio o’r oes Neolithig – 5000 o flynyddoedd yn ôl. Dyma oedd y prif lwybr rhwng Prydain ac Iwerddon yn yr oes a fu. Mae olion cynhanes yn britho’r bryniau,- cromlechi o’r Oes Efydd a chaerau Oes yr Haearn. O ben Foel Drygarn gwelir olion y muriau cerrig a’r ffosydd fu’n amgylchynu’r copa yn cadw cwmni i'r creigiau a’r clogwyni naturiol sydd o gwmpas.
Er mai prin yw’r boblogaeth yn yr ardal yma, mae pentrefi mawr a mân sy’n llawn cymeriad a chymeriadau. Ym Mhontfaen, yng Nghwm Gwaun, mae tafarn enwog y Dyffryn Arms. Dyma’r ardal lle cedwir traddodiad yr Hen Galan pob Ionawr 13eg. Ceir hanes diwydiant llechi yn ardal Rosebush, Maenclochog a Llangolman. Mae Crymych yn ganolfan i ardal amaethyddol eang lle mae i’r iaith Gymraeg a chwaraeon fel rygbi a chriced le pwysig ym mywyd cymdeithas. Yn chwedlau’r Mabinogion, mae’r Preseli yn dirlun ar gyfer hanes y Twrch Trwyth. Yn chwedl Cerrig Meibion Owen ceir ymdrech i egluro sut y crewyd y creigiau anferthol sydd uwch ben Allt Ty Canol. Yn yr ardal hon tardda nifer o afonydd y sir ac y mae llynnoedd Llysyfran a Rosebush yn bwysig o ran darpariaeth dŵr.
Er mor hoff ydym, yn Sir Benfro, o’r Preselau, mae gan ardaloedd eraill o Gymru fynyddoedd mwy. I Eryri y daeth Syr Edumnd Hilary er mwyn ymarfer am ei daith i gopa Everest yn 1953. Oeddech chi yn gwybod mai Cymro wnaeth enwi Everest? Mae Tori James, o Hwlffordd ymhlith y merched sydd wedi llwyddo i ddringo i'r copa. Mae chwedlau lawer am Gadair Idris, Y Cnicht a Moel Famau. Mae dysgu am Fannau Brycheiniog, Pumlumon, y Glyderau a Bryniau Clwyd i gyd yn fodd o egluro pam y gelwir ein gwlad yn ‘fynyddig’.
Y mae Cymry wedi bod yn flaenllaw iawn yn hanes dringo mynyddoedd y byd. Mae Lowri Morgan ymhlith y rhai sydd wedi mentro yn ôl troed y dringwr dewr, Eric Jones o Dremadog, sydd wedi concro copaon ucha’r byd. Ioan Doyle ydy un arall.
HERIAU
SEREN A SBARC
Cerdded y Preselau
Ydych chi wedi cerdded ar y Preselau? Ydych chi'n gallu darllen map a darganfod beth enwau'r mynyddoedd a'r carnedd o'ch cwmpas?
Tori James a Lowri Morgan
Tori James a Lowri Morgan - dyna chi ferched medrus! Pam mae'r ddwy yn enwog yng Nghymru?
Ystyr enwau ar y Preselau
Edrychwch ar fap OS i ddarganfod enwau'r mynyddoedd a'r carnedd. Beth yw ystyr yr enwau?
Caneuon Mabinogi-ogi
Gwrandewch a dysgwch ambell un o ganeuon Mabinogi-ogi e.e
Hanes ar y Preselau
Oeddech chi'n gwybod bod awyren wedi disgyn a chwalu ar y Preselau? Oeddech chi'n gwybod roedd y llywodraeth eisiau creu safle milwrol ar y Preselau? Beth oedd yr hanes? Ydych chi'n gwybod am fwy o hanesion?
Y Mabinogion
Ydych chi'n gwybod beth yw'r Mabinogion? Beth yw'r cysylltiadau gyda Sir Benfro?