Y GROMLECH
ADNODDAU I YSGOLION SIR BENFRO
ADNODDAU I YSGOLION SIR BENFRO
Mae’r cynlluniau enghreifftiol hyn yn dangos sut y gellir defnyddio’r fframwaith mewn ffordd ymarferol ar draws y Dysgu Sylfaen a’r Dysgu Iau.
Maent yn cynnig:
Unedau clir ar gyfer pob blwyddyn, gyda thasgau llafar ac ysgrifenedig sy’n seiliedig ar yr un patrymau.
Egwyddorion cadarn i sicrhau dilyniant o flwyddyn i flwyddyn, gan adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd yn flaenorol.
Enghreifftiau o weithgareddau sy’n symud dysgwyr o fodelu a drilio, at brosesu a chynhyrchu annibynnol.
Cyfleoedd i ailgylchu iaith mewn cyd-destunau gwahanol er mwyn cryfhau’r cof hir-dymor.
Mae’r cynlluniau i gyd yn hyblyg ac addasadwy, gan roi strwythur a chefnogaeth i athrawon wrth gynllunio, ond hefyd ryddid i’w teilwra i gyd-destun unigol pob ysgol.
Trosolwg o Dasgau
Meithrin
Derbyn
Blwyddyn 1
Blwyddyn 2
Blwyddyn 3
Blwyddyn 4
Blwyddyn 5
Blwyddyn 6
Dewis Patrymau – ar gyfer pob uned newydd, dewis patrymau fydd yn sail i’r dasg lafar a’r dasg ysgrifenedig sy’n:
bwrpasol ar gyfer y tasgau,
ddigon newydd i herio ac ymestyn y dysgwyr,
gyfarwydd ond angen eu hatgyfnerthu,
wedi’u targedu i ddysgu nodwedd ramadegol allweddol (e.e. treiglad) mewn cyd-destun.
Mapio’r Camau Sefydlu – cynllunio sut y bydd pob patrwm yn cael ei gyflwyno, ei ymarfer a’i fewnoli.
Defnyddio Adeiladwyr Brawddegau – paratoi/addasu adeiladwyr i gefnogi modelu a phrosesu’r iaith.
Cyd-destunau Ystyrlon – cysylltu patrymau â themâu cyfredol, cyd-destunau lleol fel eu bod yn gofiadwy ac yn berthnasol.
Llafar yn Gyntaf – sicrhau bod siarad/gwrando yn dod cyn ysgrifennu, yn unol â’r egwyddorion yn y Fframwaith.
Disgwyliadau Blwyddyn-benodol – sicrhau bod nodweddion penodol ar gyfer eich blwyddyn (strwythurau, treiglo, atalnodi, terminoleg) yn cael eu:
cyflwyno a’u dysgu’n glir mewn patrymau yn yr unedau yn hytrach na’u dysgu ar wahân.
hail-ymweld mewn cyd-destunau ystyrlon
Adalw – ail-ymweld â phatrymau blaenorol mewn tasgau newydd ar draws y meysydd dysgu, nid symud ymlaen yn unig.
Asesu ar gyfer Dysgu – gwirio gallu dysgwyr i ddefnyddio patrymau’n ddigymell (nid yn unig mewn tasgau wedi’u sgaffaldio).
Sut fyddwch chi'n addasu a chynnal y cynllun ar gyfer eich cyd-destun ni?
Sut fyddwch chi'n sicrhau bod pawb yn hyderus i ddefnyddio’r Fframwaith?
Sut fyddwch chi'n cadw momentwm y gwaith?
Sut allwch chi sicrhau bod y patrymau’n cael eu hailgylchu ac atgyfnerthu ar draws y cwricwlwm?
Sut y byddwch chi'n asesu cynnydd gan ddefnyddio’r Fframwaith ochr yn ochr â systemau asesu’r ysgol?
Sut fyddwch cih'n clywed llais y dysgwyr i ddeall beth sy’n gweithio?