Y GROMLECH

ADNODDAU I YSGOLION SIR BENFRO

Diweddariadau Siarter Iaith

Siarter Iaith Developments

Adnabod Ein Cynefin

Statws: ar y gweill | in progress
Dyddiad: Mai 2024

Adnoddau 'Cynefin' newydd : Mae'r hanesydd lleol ac athro dyniaethau, Mr. Hedd Ladd Lewis, ar hyn o bryd yn ysgrifennu cyfres o adnoddau i ysgolion i'w helpu i ddeall eu bro a'u cynefin. Gallwch weld y PowerPoint cyntaf isod.

New 'Cynefin' resources : Local historian and humanities teacher Mr. Hedd Ladd Lewis is currently authoring a series of resources for schools to help them understand their locality and 'cynefin'. You can view the first PowerPoint below.

Llwyfan y Criw Cymraeg

Statws: ar y gweill | in progress
Dyddiad: Tymor yr Haf, 2024

Mae adran newydd ar Y Gromlech yn cael ei datblygu i ddarparu gwybodaeth i'r Criwiau Cymraeg. Yn ogystal, bydd cyfres newydd o fideos i gefnogi’r Criwiau Cymraeg yn eu gwaith ar gael yn yr adran hon.

A new section on Y Gromlech is being developed to provide information for the Criw Cymraeg. Additionally, a new series of videos aimed at supporting the Criw Cymraeg in their work will be available in this section.

Canllawiau Newydd

Statws: ar y gweill | in progress
Dyddiad: Mai 2024

Lansio Canllawiau Diwygiedig: Bydd Llywodraeth Cymru yn lansio canllawiau diwygiedig ar gyfer y Siarter Iaith yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Mai 2024. Edrychwch allan am y canllawiau newydd, fideos, a hyd yn oed rhai ffrindiau newydd ar gyfer Seren a Sbarc!

Launch of Revised Guidelines: The Welsh Government will launch revised guidelines for the Siarter Iaith during the National Urdd Eisteddfod in May 2024. Look out for the new guidelines, videos, and even some new friends for Seren a Sbarc!

Prosiect Enwau Lleoedd

Statws: ar y gweill | in progress
Dyddiad: Tymor yr Haf, 2024

Mae pob ysgol wedi cael gwahoddiad i astudio enwau lleoedd Cymraeg a gweithio ochr yn ochr â Mwydro i ddysgu sut i ddarlunio lleoedd o gwmpas ein sir yn ddigidol. Bydd y darluniau buddugol yn cael eu troi’n gifs a byddant ar gael i deuluoedd ac ymwelwyr eu defnyddio ar nifer o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol.

All schools have been invited to study Welsh place names and work alongside Mwydro to learn how to digitally illustrate places around our county. The winning illustrations will be turned into gifs and will be available for families and visitors to use on numerous social media platforms.

Ysgol Aber Llydan yn ennill
Gwobr Efydd Cymraeg Campus

Dyddiad: Mawrth 2024

Broad Haven Schol achieves the Cymraeg Campus bronze award.

Ysgol Dinbych y Pysgod yn ennill
Gwobr Efydd Cymraeg Campus

Dyddiad: Chwefror 2024

Tenby VC Schol achieves the Cymraeg Campus bronze award.

Gig Candelas i Ddathlu Dydd Miwsig Cymru

Statws: cwblhawyd | completed
Dyddiad: Chwefror 2024

Dros 800 o blant yn mwynhau gig byw gyda’r band Candelas yn Neuadd y Frenhines, Arberth i ddathlu Dydd Miwsig Cymru.

Over 800 children enjoy a live gig with the band Candelas at Queen's Hall, Narberth to celebrate Dydd Miwsig Cymru.

Ysgol Maenclochog yn ennill
Gwobr Arian y Siarter Iaith

Dyddiad: Medi 2023

Ysgol Maenclochog achieves the Siarter Iaith Silver Award

Ysgol Brynconin yn ennill
Gwobr Arian y Siarter Iaith

Dyddiad: Medi 2023

Ysgol Brynconin achieves the Siarter Iaith Silver Award

Creu Gyda Mei

Statws: cwblhawyd | completed
Dyddiad: Gorffennaf 2023

Lansio cyfres o ganeuon newydd gan Mei Gwynedd a disgyblion o 46 ysgol i ddathlu eu bro.

A series of new songs by Mei Gwynedd and pupils from 46 schools was launched to celebrate their local area.

Ysgol Casmael yn ennill
Gwobr Arian y Siarter Iaith

Dyddiad: Gorffennaf 2023

Puncheston School achieves the Siarter Iaith Silver Award

Ysgol Llanychllwydog yn ennill
Gwobr Aur y Siarter Iaith

Dyddiad: Gorffennaf 2023

Ysgol Llanychllwydog achieves the Language Charter Gold Award

Adnoddau Sbarduno Ysgrifennu
Stori Sir Benfro

Statws: yn cofrestru | enrolling
Dyddiad: 07.06.24

Cyfres o adnoddau llenyddol ac anllenyddol yn canolbwyntio ar Sir Benfro.

A series of literary and non-literary resources focusing on Pembrokeshire.

Traed, Cam a Naid

Statws: cwblhawyd | completed
Amserlen: Gorffenwyd Mehefin 2021

Cynlluniwyd adnoddau Traed, Cam a Naid er mwyn ystyried sut y gallwch chi gychwyn eich topig wrth eich traed yna cymryd cam i edrych ar Gymru ac yn olaf naid i ddarganfod cysylltiadau rhyngwladol.

The Traid, Cam a Naid resources were designed to make you consider how you can start your topic at your feet (traed) then taking a step (cam) to look at the rest of Wales and finally a leap (naid) to discover international links.

Stori Sir Benfro

Statws: cwblhawyd | completed
Amserlen: Gorffenwyd Mehefin 2021

Stori Sir Benfro. Lansio 'Y Gromlech' gydag ardal bwrpasol ar gyfer Stori Sir Benfro. Map rhyngweithiol o Sir Benfro, a grëwyd gan Hedydd Hughes, ar gael ynghyd â chopïau caled i'w defnyddio mewn ysgolion.

Stori Sir Benfro. Launch of 'Y Gromlech' with a dedicated area for Pembrokeshire's Story. An interactive map of Pembrokeshire, created by Hedydd Hughes, made available along with hard copies for use in schools.