Y GROMLECH
ADNODDAU I YSGOLION SIR BENFRO
ADNODDAU I YSGOLION SIR BENFRO
Mae Fframwaith Iaith Sir Benfro wedi’i ddatblygu i helpu ysgolion i gynllunio’n fwriadol er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn meithrin yr hyder a’r rhuglder i ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol. Mae’n cynnig dilyniant clir mewn siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu ar draws y Dysgu Sylfaen a’r Dysgu Iau, ac yn rhan allweddol o Strategaeth Iaith Sir Benfro.
Mae’r Fframwaith yn cyfuno tair prif elfen:
Patrymau Craidd – cyfeirnod o’r iaith allweddol i’w dysgu ac ailgylchu.
Cynllun Gwaith Enghreifftiol – enghreifftiau blynyddol o unedau gyda thasgau llafar ac ysgrifenedig ar yr un patrymau.
Camau Sefydlu (EPI) – dull strwythuredig i symud dysgwyr o fodelu at gynhyrchu annibynnol, gan sicrhau trosglwyddiad i’r cof hir-dymor.
Mae’r fframwaith hwn wedi’i ddatblygu i helpu ysgolion cyfrwng Cymraeg adnabod a chyflwyno’r patrymau iaith craidd sydd eu hangen ar ddysgwyr i fynegi’u hunain yn hyderus ac yn unol â gofynion Cwricwlwm i Gymru. Wedi’i seilio ar egwyddorion addysgu ail iaith fel EPI, nod y fframwaith yw sicrhau bod dysgwyr yn mewnoli ac yn defnyddio’r patrymau hyn yn rhugl mewn amryw o gyd-destunau. Cafodd y fframwaith ei gyflwyno i athrawon mewn hyfforddiant deuddydd er mwyn eu galluogi i’w ddefnyddio’n effeithiol fel arf cynllunio ac addysgu.
Enghreifftiau i ddod
(I ddod 2025 / 2026)