Y GROMLECH
ADNODDAU I YSGOLION SIR BENFRO
ADNODDAU I YSGOLION SIR BENFRO
Mae’r 4 cam yn y ddelwedd yn rhan greiddiol o’r broses o sefydlu patrymau iaith craidd yn y cof hir dymor. Wrth gynllunio, mae’r athro yn dewis patrymau iaith perthnasol yn seiliedig ar allbwn y dasg, cyn eu sefydlu’n fwriadol drwy weithgareddau sy’n cyd-fynd â’r camau hyn. Wedi’u seilio ar egwyddorion EPI (Extensive Processing Instruction), mae’r camau’n symud o fodelu a drilio (Cam 1), i ymarfer a phrosesu mewn dasgau gwrando a darllen (Cam 2), wedyn cynhyrchu strwythuredig (Cam 3), ac yn olaf cynhyrchu annibynnol (Cam 4). Mae’r strwythur hwn yn cefnogi’r cof gweithredol ac yn galluogi dysgwyr i fewnoli’r patrymau’n raddol trwy ddefnyddio dulliau goddefol a gweithredol.
Cam 1 yw’r cam sefydlu lle mae’r patrymau iaith craidd yn cael eu cyflwyno a’u modelu’n fanwl.
Nod y cam yw sicrhau bod dysgwyr yn clywed, darllen ac ailadrodd yr eitemau iaith darged dro ar ôl tro er mwyn eu mewnoli’n raddol. Caiff y dysgwyr gyfle i sylwi ar batrymau a gwirio dealltwriaeth.
Yn ystod y cam hwn, mae’r ffocws ar 'flooded input' – mewnbwn ailadroddus ac ystyrlon sy’n cael ei fodelu gan yr athro mewn cyd-destunau cyfarwydd.
Yn y cam hwn, mae’r dysgwyr yn parhau i dderbyn flooded input, ond y tro hwn drwy dasgau sydd wedi’u cynllunio i’w helpu i brosesu’r iaith yn weithredol. Mae’r ffocws yn symud o wrando goddefol i ymgysylltu’n fwriadol â’r iaith.
Dylai testunau gynnwys tua 95% o iaith ddealladwy, gan ganiatáu’r dysgwyr i ganolbwyntio ar y patrymau darged. Mae’n bwysig parhau i ddrilio’r patrymau cyn y tasgau, a chaniatáu i’r dysgwyr gyfeirio at adeiladwyr brawddegau pan fydd angen wrth gwblhau’r gweithgareddau. Mae’r ailadrodd naturiol hwn yn gosod sylfaen gadarn ar gyfer cynhyrchu yn y cam nesaf.
Yn y cam hwn, caiff dysgwyr gyfleoedd helaeth i gynhyrchu’r iaith mewn cyd-destunau strwythuredig. Dyma gyfnod dwys o ymarfer adalw (retrieval practice), sy’n allweddol i ddatblygu rhuglder. Caiff y dysgwyr hefyd gyfleoedd i ymestyn a chyfuno’r patrymau darged, gan ailgylchu iaith a ddysgwyd eisoes. Mae’r gweithgareddau’n pontio’r bwlch rhwng mewnbwn ac allbwn llafar/ysgrifenedig, gan baratoi’r dysgwyr ar gyfer cynhyrchu annibynnol yn y cam olaf.
Yn ystod y cam hwn, byddwch yn gwirio a all y dysgwyr adalw ac addasu’r patrymau iaith darged heb gefnogaeth uniongyrchol, gan ganolbwyntio ar ddatblygu 'routinisation' (term EPI) – hynny yw, awtomeiddio ac hyblygrwydd wrth ddefnyddio’r iaith mewn cyd-destunau amrywiol. Mae ailgylchu parhaus yn hanfodol i sicrhau bod yr iaith yn cael ei defnyddio’n rhwydd, yn hyderus ac yn briodol.
Dylai dysgwyr gael cyfleoedd i gynhyrchu iaith yn rhydd cyn mynd ati i gwblhau tasgau llafar ac ysgrifenedig o fewn y maes dysgu LLC, gan drosglwyddo’r patrymau i gyd-destunau ystyrlon. Gellir lanlwytho tasgau llafar i bortffolios digidol ar gyfer hunan-fyfyrio a monitro cynnydd. Ar ôl y cam hwn, disgwylir i’r dysgwyr barhau i ddefnyddio ac ehangu’r iaith ar draws meysydd dysgu eraill, gan bontio’n llawn i’w chymhwyso y tu hwnt i’r gwersi ffocws.