Llwyddiant ysgubol: Sir Benfro yn Lansio Cyfres o Ganeuon Newydd gan Mei Gwynedd a Disgyblion o 46 Ysgol i Ddathlu eu Bro
Fel rhan o’u hymrwymiad i’r Siarter Iaith, cychwynnodd ysgolion Sir Benfro ar y prosiect hynod hwn i ddathlu eu hardal a mwynhau defnyddio eu sgiliau Cymraeg mewn cyd-destun gwahanol. Cafodd geiriau y saith cân swynol eu crefftio'n gelfydd gan y Criw Cymraeg o bob ysgol. Mae eu dawn hynod yn disgleirio drwodd yn y penillion, gan greu dathliad barddonol o hunaniaeth unigryw Sir Benfro.
Rhannodd Criw Cymraeg o Ysgol Mair Ddihalog â balchder: "Roedd ysgrifennu, ymarfer a pherfformio ar gyfer y fideo yn brofiad bythgofiadwy, roedd yn gyfle mor unigryw i greu ac ysgrifennu cân gydag artist adnabyddus!"
Ychwanegon nhw "Roedden ni mor gyffrous i rannu ein syniadau. Fe wnaeth i ni ganolbwyntio'n wirioneddol ar ein cynefin a'r hyn sy'n bwysig i ni yn ein hardal leol."
Rhannodd Mei Gwynedd ei brofiad o weithio ar y prosiect drwy nodi: "Braf iawn oedd cael cyd-gyfansoddi caneuon gyda phlant a phobol ifanc Sir Benfro. Roeddent i gyd mor falch o’u hardal a fe ddysgais lawer iawn am y gornel hyfryd yma o Gymru! Roedd rhai yn rhugl yn y Gymraeg, ac eraill yn dechrau ar eu taith o ddysgu'r iaith, ond mae’n gret gallu gweld cerddoriaeth yn uno plant o gefndiroedd gwahanol. Diolch unwaith eto i blant o sir y garreg las!"
🎶 Sir Benfro 🎶
Clwstwr Preseli a Chaer Elen
Geiriau Cân Preseli a Chaer Elen.docx
🎶 Abergwaun a'r Fro🎶
Clwstwr Bro Gwaun
Geiriau Cân Abergwaun a'r fro.docx
🎶 Dinbych y Pysgod a'r Fro🎶
Clwstwr Dinbych y Pysgod
Geiriau Cân Dinbych y Pysgod.docx
🎶 Hwlffordd a'r Fro🎶
Clwstwr Hwlffordd
Hwlffordd a'r fro.docx
🎶 Tyddewi a'r Fro🎶
Clwstwr Penrhyn Dewi
Geiriau Cân Tyddewi a'r fro.docx
🎶 Aberdaugleddau a'r Fro🎶
Clwstwr Aberdaugleddau
Geiriau Cân Aberdaugleddau a'r fro.docx
🎶 Penfro a'r Fro🎶
Clwstwr Penfro
Geiriau Cân Penfro a'r fro.docx
🎶 Traciau🎶
I wrando ar y traciau gyda llai Mei a heb lais Mei, defnyddiwch y ddolen isod: