Y GROMLECH
ADNODDAU I YSGOLION SIR BENFRO
ADNODDAU I YSGOLION SIR BENFRO
Mae’r holiadur yn rhan bwysig o'r Siarter Iaith. Yn dilyn derbyn a dadansoddi canlyniadau’r holiadur, mae ysgolion yn llunio cynllun gweithredu i ymateb i’r gofynion a’r heriau sydd wedi eu hamlygu. Gosodir cyfres o dargedau i holl gymuned yr ysgol yn cynnwys y dysgwyr, y gweithlu, llywodraethwyr, a’r rhieni/gofalwyr, gyda chyfnod o weithredu yn dilyn. Ar ddiwedd y cyfnod gweithredu, mae pob dysgwr yn cwblhau’r holiadur unwaith eto, ac ar sail y dystiolaeth a gesglir mae’r ysgol yn olrhain cynnydd yn ystod y cyfnod. Gellir llenwi'r holiadur ddwywaith bob blwyddyn ysgol. Bydd yr holiadur cyntaf ar agor o Fedi tan tua Mai / Mehefin. Bydd dolen newydd yn dweud 'Tymor yr Haf' yna'n ymddangos i fesur cynnydd ar ddiwedd y flwyddyn academaidd.
Mae cyfarwyddiadau i benaethiaid a chydlynwyr i ddod o hyd i ganlyniadau'r holiadur ar y dde.
The questionnaire is an important part of the Language Charter. Following receipt and analysis of the results of the questionnaire, schools draw up an action plan to respond to the requirements and challenges that have been highlighted. A series of targets are set for the whole school community including the learners, the workforce, governors, and the parents/carers, with a period of action following. At the end of the implementation period, all learners complete the questionnaire once again, and based on the evidence collected the school tracks progress during the period. The questionnaire can be completed twice each school year. The first questionnaire will be open from September until around May / June. A new link saying 'Summer Term' will then appear to measure progress at the end of the academic year.
Instructions for headteachers and coordinators to locate the questionnaire results can be found on the right.
I lawrlwytho cronfa o ddelweddau o Seren a Sbarc, a grëwyd gan yr artist Huw Aaron, cliciwch ar y ddolen isod i lawrlwytho ffeil zip.
To download a bank of images of Seren a Sbarc, created by artist Huw Aaron, please click on the link below to download a zip file.
🎼 Chwilio am gerddoriaeth Gymraeg fodern?
Bydd Radio Cymru 2 yn creu rhestr chwarae newydd bob mis ar BBC Sounds sy’n hawdd i’w chanfod, yn syml i’w defnyddio ac ar gael yn rhad ac am ddim i ysgolion a rhieni. Teipiwch 'Miwsig y Siarter Iaith' ym mar chwilio BBC Sounds.
🎼Looking for modern Welsh language music for your learners?
Radio Cymru 2 will be creating a new playlist every month on BBC Sounds which is easy to find, simple to use and available free of charge to schools and parents. Type in 'Miwsig y Siarter Iaith' in the BBC Sounds search bar.