Y GROMLECH
ADNODDAU I YSGOLION SIR BENFRO
ADNODDAU I YSGOLION SIR BENFRO
Ym mhentref Llandudoch, ar ffin ogleddol ein sir, saif hen abaty, tloty ac ysgol – pob un yn symbol o hen systemau awdurdodol. Roedd systemau cyfraith, trefn ac addysg llym iawn mewn bodolaeth yn Sir Benfro hyd at ddiwedd Oes Fictoria. Gwelir tystiolaeth ohonynt yn yr adeiladau sy’n britho’n sir heddiw. Petai walydd Abaty Llandudoch, Priordy Hwlffordd, Castell Nanhyfer, Tlotai Arberth a Phenfro, Carchar Hwlffordd, a holl hen ysgolion y Sir yn gallu siarad, byddent yn adrodd stori ddiddorol.
Mewn ysgolion, beth oedd yr ymateb i'r Welsh Not? Beth oedd profiad plentyn mewn wyrcws neu ysgol slawer dydd? Mae’r atebion i gyd yn ein archifdy ac mae staff dwyieithog yno yn barod i helpu ein disgyblion i ymchwilio.
Beth oedd yn achosi trosedd yn y gymuned? Pam allforio troseddwyr ac i ble? Pam aeth Cymry i Batagonia i chwilio bywyd newydd yn 1865?
Bu Merched Beca yn troseddi am y tro cyntaf yn Efailwen, ym Mis Mai 1839. Protest ydoedd yn erbyn y cynnydd mewn tollbyrth a lefel y tollau ar ffyrdd y fro.
Gwisgai’r protestwyr wisgoedd merched a'u wynebau wedi eu duo. Bu'r protestiadau cyntaf yn llwyddiant, ac felly, lledu wnaethant ar draws gorllewin Cymru. Arweinydd y ‘Merched’ yn Efailwen oedd Thomas Rees, neu "Twm Carnabwth". A fu’r ‘Merched’ yn ‘torri’r iet’ yn eich ardal chi?
Mae sawl hen adeilad ym mhob cymuned wedi ei addasu i bwrpas newydd dros y canrifoedd. A yw hi’n bwysig ein bod ni yn eu diogelu? Ydyn ni yn gallu eu defnyddio i ddehongli hanes ar gyfer Sir Benfro'r dyfodol, neu ar gyfer ymwelwyr ? Sut gall adeiladau hanesyddol chwarae ran bwysig yn economi ein Sir?
Pam roedd pobl o Gymru wedi symud i Batagonia?
Pwy oedd Mari Jones? Pam mae stori Mari Jones a'r Beibl yn bwysig yng Nghymru?
Beth oedd yr 'Welsh Not' a beth oedd yr effaith ar yr iaith Gymraeg?
Mae Dafydd Iwan wedi ysgrifennu cân am yr Welsh Not - 'Baled y Welsh Not' a roedd Tecwyn Ifan wedi ysgrifennu cân am Merched Beca - 'Ysbryd Rebeca'. Pa ganeuon eraill sydd wedi eu hysgrifennu am ddigwyddiadau yng Nghymru?
Dynion yn gwisgo fel merched ac yn ymosod ar dollbyrth yr ardal... pam? Ydych chi'n gwybod yr hanes? Pwy oedd Twm Carnabwth?
Ydych chi'n gallu darganfod cerdd neu lyfr i ddarllen am daith y Cymry i Batagonia?