Y GROMLECH

ADNODDAU I YSGOLION SIR BENFRO

Ein stori ni - Traed... cam... a naid!

Waldo Williams

Dyma fwy o luniau i chi eu hystyried. Beth yw'r cysylltiad?

O'N BRO I'R BYD

Dechrau wrth ein traed

Cam i weld Cymru

A naid i weld y byd!

Waldo Williams

Munud i feddwl

Bardd, heddychwr, athro, proffwyd a gwrthwynebydd cydwybodol oedd Waldo. Ganwyd ef yn Hwlffordd a bu’n dysgu mewn nifer o ysgolion cynradd y Sir. Roedd yn hoff iawn gan ei ddisgyblion a’r werin bobl, ond yn mynd i drafferthion gyda’r awdurdodau. Aeth i'r carchar am wrthod talu trethi fel protest bwriadol yn erbyn rhyfel. Bu’n byw yn Llandysilio ond roedd yn ffigwr adnabyddus ledled Sir Benfro. Cyhoeddodd gyfrol o gerddi ‘Dail Pren’ yn 1956. Ei hoff gerdd oedd ‘Preseli’. Crëwyd hi tra roedd Waldo yn athro yn Lloegr, mewn ymateb i fwriad y llywodraeth i ddefnyddio y Preselau fel man ymarfer milwrol. Roedd yn teithio o gwmpas Sir Benfro ar gefn beic. Roedd yn byw ‘bywyd gwyrdd’ cyn i bobl y byd ddechrau meddwl am anghenion y ddaear. Roedd yn credu yn gryf mewn cyfartaledd a brawdgarwch.


Roedd Waldo yn rhagweld effeithiau byr a hir dymor Yr Ail Ryfel Byd ar fywyd pobl ar bob cyfandir. Newidiodd bywydau merched, byd technoleg, a’n byd olwg yn fawr iawn. Doedd dim troi nôl - er gwell, er gwaeth. Crëwyd maes awyr RAF yn Nhŷddewi, canolfan storio arfau yn RNAD Trecŵn, moriwyd awyrennau Sunderland yn Noc Penfro a chynhaliwyd profion ffrwydrol yn Rosebush ac ymarferion D Day ar yr arfordir ger Amroth. Bu dynion o Sir Benfro yn brwydro fflamau yn Abertawe adeg Y Blits ac yn cloddio glo gyda’r ‘Bevin Boys’. Daeth aelodau Byddin y Merched o bellter i weithio ar ffermydd ac i dorri gelltydd yn ein sir. Collodd bron pob pentref fechgyn, fel yn y Rhyfel Mawr. Tyfodd y parch at safbwynt heddychwyr yn sgil hyn.


Mae trafod Waldo yn gyfle i ddysgu am bwysigrwydd diogelu heddwch. Gellir trafod gwaith Cymdeithas y Cymod a Llyfr Gwyn Caerfyrddin a’r Deml Heddwch o fewn Cymru, a’r Cenhedloedd Unedig yn fyd eang.

HERIAU

SEREN A SBARC

Symudiadau Waldo

Roedd Waldo wedi symud tipyn yn ystod ei fywyd. Defnyddiwch fap o Gymru i ddangos ac i son am symudiadau Waldo ar hyd ei oes.

Beirdd Cymru

Mae'n siwr bod Waldo wedi ysbrydoli llawer o bobl ar hyd y blynyddoedd gan gynnwys Dr.Mererid Hopwood - y fenyw cyntaf i ennill cadair yr Eisteddfod Genedlaethol. Pa feirdd ifanc sy'n barddoni yng Nghymru ar hyn o bryd?

Tangnefeddwyr

Ysgrifennodd Waldo y gerdd 'Tangnefeddwyr' wrth iddo weld dinas Abertawe yn llosgi ar y gorwel ar ol iddi gael ei bomio. Gallwch chi ddysgu'r gân 'Tangnefeddwyr'?

Pa ganeuon cyfoes sy'n son am heddwch neu ryfel?

Waldo a Sir Benfro

Pam fod Waldo'n bwysig i ni yn Sir Benfro? Beth oedd e wedi dysgu i ni a sut oedd e wedi helpu'r sir?

Cerdd gan Waldo

Dysgwch a pherfformiwch gerdd gan Waldo.

LLWYBRAU POSIB O FEWN Y MEYSYDD DYSGU

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Pwy oedd Waldo?

Defnyddiwch y dolenni ar y dudalen i ddysgu mwy am Waldo. Ysgrifennwch fywgraffiad.

Darllenwch, mwynhewch a dysgwch

Astudiwch a mwynhewch a amryw o gerddi gan Waldo Williams.

Cymharu Safbwynt

Cymharwch safbwynt Anne Frank a Waldo Williams.

Ysgrifennu cerdd - Heddwch / Brwydro

Beth yw ystyr 'Tangnefeddwyr'?

Ysgrifennwch gerdd am heddwch neu am frwydro.

Iechyd a Lles

Codi calonnau'n Sir Benfro

Beth yw hanes Bois y Frenni?

Maen nhw'n canu caneuon i godi calon sy’n llawn lliw y cyfnod 1939-45.

Caneuon i godi calon

Cymharwch Bois y Frenni â George Formby, Vera Lynn a Glen Miller. Pam roedden nhw'n bwysig?

Y Gymraeg yn achub bywydau

Sut oedd y Gymraeg wedi achub bywydau? Oes enghreifftiau eraill o ieithoedd yn achub bywydau?

Brawdgarwch

Dysgu am frawdgarwch Waldo trwy ei gerddi.

Hawliau pobl dduon

Dysgu am effaith atgasedd hanesyddol ym mywydau pobl dduon yng Nghymru.

Effaith rhyfel ar deuluoedd

Trafdowch sut oedd rhyfel yn effeithio ar deuluoedd.
Sut wnaeth y ryfel effeithio ar eich teulu chi? Chwiliwch am yr hanes.

Gweithredu dros heddwch

Dysgwch am weithredu dros heddwch.

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Dulliau Adeiladu'r Cyfnod

Astudiwch ddyfeisiadau a datblygiadau technoleg y cyfnod – mecanyddol, atomig, radar, cemegol, balwnau gwarchod ayyb.

Awyrennau Sunderland yn Noc Penfro

Beth oedd hanes Awyrennau Sunderland yn Noc Penfro?

Maes awyr yn Nhyddewi

Pam oedd maes awyr yn Nhyddewi? Oes eraill yn Sir Benfro?

Dysgwch am y gwaith cadwraeth ar y maes awyr heddiw.

Technoleg yn yr awyr

Dysgwch am beirianneg awyrennau a balwnau.

Pwysigrwydd codau yn ystod y rhyfel

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, credai'r Almaen fod ei chodau cyfrinachol ar gyfer negeseuon radio yn unigryw i'r Cynghreiriaid. ... Fodd bynnag, fe wnaeth gwaith manwl y torwyr cod oedd wedi'i leoli ym Mharc Bletchley Prydain chwalu cyfrinachau cyfathrebu amser rhyfel yr Almaen, a chwarae rhan hanfodol yn y golled olaf yn yr Almaen.

Rhaglenni

Defnyddio codio i greu rhaglen syml.

Mathemateg a Rhifedd

Rhifedd codau a chryptogramau

Defnyddio codau ar gyfer mathemateg a rhifedd.

Dogni bwyd

Problemau mathemategol yn seiliedig ar ddogni bwyd.

Llyfrau Cymraeg

Mae'r siopau llyfrau Cymraeg lleol eisiau gwerthu. Allwch chi helpu i ostwng y llyfrau - 10%, 25% ac ati

Dyniaethau

Mair Russell Jones

Ysgrifennwch erthygl i'r papur bro lleol am Bletchley Park a’r Peiriant Enigma. Hanes Mair Russell Jones yn gweithio yn Bletchley

Pŵer Atomig

Datblygiad pŵer atomig ac effaith datblygiad pŵer atomig ar bentref Trawsfynydd.

O Tiger Bay i America

Edrych ar brofiad 70 o ferched dduon Tiger Bay a aeth i fyw i America wedi priodi ‘GIs’.

Beth arall ddigwyddodd yn Sir Benfro yn ystod yr ail rhyfel byd?

Yn 1931 sefydlodd yr Awyrlu Brenhinol ganolfan yn Noc Penfro. Ymchwiliwch i'r tân mawr ar 19 Awst 1940 pan fomiwyd tanciau olew gan awyren Almaenig

Ymarferion ar gyfer glaniadau ‘D Day’

Datblygu RNAD Trecŵn canolfan storio arfau Sir Benfro

Celfyddydau Mynegiannol

Cymharu amrywiaeth o gerddoriaeth Gymreig o’r un cyfnod – Bois Y Frenni (W R Evans), Grace Williams (Penillion 1955) a Karl Davies a anwyd yn ystod y ryfel