Y GROMLECH
ADNODDAU I YSGOLION SIR BENFRO
ADNODDAU I YSGOLION SIR BENFRO
Codwyd yr adeilad cul, 3 llawr hwn, ychydig lathenni o'r harbwr yn Ninbych-y-pysgod, ar ddechrau'r 15fed ganrif. Mae wedi'i adeiladu o rwbel calch a thywodfaen ac mae ganddo simnai gron a garderobe sy'n codi uchder llawn yr adeilad. Mae yn nodweddiadol o’r math o dŷ masnachwr llewyrchus a godwyd pan oedd Dinbych-y-pysgod yn borthladd llewyrchus ar ddiwedd yr Oesoedd Canol. Mae'n gartref i gasgliad rhyfeddol o offer a chelfi a wnaed yn lleol. Copïwyd y dodrefn, piwter, crogluniau a serameg o ddarnau Tuduraidd sydd yn dod o'r ardal.
Mae gan Ddinbych y Pysgod nifer o gysylltiadau Tuduraidd eraill. Ailadeiladwyd waliau y dref ym 1457 o dan nawdd Jasper Tudor, Iarll Penfro. Hefyd, ganwyd Robert Recorde yma, sy’n cael ei gofio am greu y symbol ‘hafal’ ar gyfer gwaith rhifedd.
Ganwyd Harri Tudur yng Nghastell Penfro. Wedi alltudiaeth yn Ffrainc, teithiodd i Frwydr Bosworth yn 1485 o ‘Mill Bay’ ger Dale, gan gasglu cefnogwyr ar hyd ei daith. Y mae Jasper Tudur a George Owen, Henllys, Arglwydd Cemais, hefyd yn ffigyrau allweddol yn hanes y Sir. Wedi Brwydr Bosworth, gwnaed Rhys ap Thomas yn Arglwydd Caeriw ac adeiladodd ystad fawreddog o gwmpas y castell yno. Erbyn 1558, roddwyd y cyfan yn nwylo Syr John Perrot, un o ffefrynnau y Frenhines Elizabeth 1af.
Ar ddechrau’r cyfnod roedd pwysigrwydd Yr Eglwys yn enfawr, ond daeth newidiadau a arweiniodd at ddinistrio’r mynachlogydd.
Newidodd bywydau pobl oherwydd darganfyddiadau y cyfnod. Bu masnachu halen, gwîn, olew, glo, pysgod, te, coffi a gwlân yn bwysig. Cafwyd datblygiadau mewn argraffu, dulliau brwydro, dulliau adeiladu llongau, teithio i ddarganfod gwledydd newydd ayb. Cafwyd Beibl yn y Gymraeg am y tro cyntaf a hyn yn fodd i achub yr iaith, gan nad oedd statws na defnydd swyddogol iddi cyn cyhoeddiad Beibl yr Esgob William Morgan (1588).
Ydych chi'n gallu esbonio ystyr a hanes enwau llefydd yn Sir Benfro?
Ydych chi'n gallu esbonio pam yr oedd William Morgan mor bwysig i'r iaith Gymraeg?
Ydych chi'n gallu dysgu 10 gair tafodieithol o Sir Benfro a'u hystyr?
Pa ganeuon sy'n son am yr iaith Gymraeg?
Ydych chi'n gwybod beth oedd y llinell Lansger? Ydy'r sefyllfa wedi newid a sut?
Darllenwch a dysgwch ambell linell o gerdd enwog Dewi Emrys 'Pwllderi' sydd wedi eu hysgrifennu mewn tafodiaith.