Y GROMLECH
ADNODDAU I YSGOLION SIR BENFRO
Ein stori ni - Traed... cam... a naid!
Iechyd - Corff ac enaid / Health - Body and soul
Dyma fwy o luniau i chi eu hystyried. Beth yw'r cysylltiad?
O'N BRO I'R BYD
Dechrau wrth ein traed
Cam i weld Cymru
A naid i weld y byd!
Munud i feddwl
Mae pwysigrwydd iechyd a lles yn ganolog i'n bywydau. Gwerthfawrogir sgiliau staff y Gwasanaeth Iechyd a’r gwyddonwyr sy’n eu cefnogi yn fwy nawr nag erioed. Ond mae hen hanes i'n hymdrechion i wella iechyd a byw bywydau bodlon. Mae yma, yn Sir Benfro, ffynhonnau iachau diddorol a chwedlau o’u cwmpas e.e. ffynnon Teilo ym Maeclochog, Ffynnon Non yn Nhyddewi, Y Dair Ffynnon yn Gumfreston, ‘ffynnon gapan’ Llanllawer ger Llanychaer, Ffynnon Govan ger Bosherston, Ffynnon Edren ger Treletert, Pistyll Meugan ger Eglwyswrw, Ffynnon Higan ger Hwlffordd – mae'n restr ddiddiwedd! Gellir ymestyn y dysgu wrth fynd ar daith rhithiol i ffynnon iachau yng Ngogledd Cymru – Ffynnon Gwenffrewi yn Nhreffynnon, Clwyd.
Frances Morgan Hoggan, o Aberhonddu oedd y ferch gyntaf yng Nghymru i hyfforddi fel meddyg. Roedd ei thad o Sir Benfro. Astudiodd Frances yn Zurich, Paris a Dusseldorf. Teithiodd i ddarlithio yn UDA. Hi oedd yr ail ferch drwy Ewrop i dderbyn gradd mewn meddygaeth, a chyflawni astudiaethau gradd chwech mlynedd yn hanner yr amser. Roedd hi’n amlieithog. Mae’n cael ei chofio fel un o gant merch mwyaf dylanwadol Cymru.
Un arall ymysg restr y 100 Cymraes ydy Betsi Cadwaladr, a fu’n gweithio fel nyrs, dramor, yng nghyfnod Florence Nightingale. Mae gwaith ar hanes Gwasanaeth Gwaed Cymru a rôl Y Groes Goch yng Nghymru yn cynnig cyfleon cyfoethog ar gyfer dysgu. Wrth drafod gwasanaeth eich meddygfa leol ac Ysbytai Llwynhelyg a De Penfro, gellir dysgu am waith enfawr Aneurin Bevan, fel sylfaenydd y GIG.
Gellir trafod hanes defnydd planhigion sy’n llesol i iechyd (a’r rhai sy’n wenwynig!) Bu Meddygon Myddfai yn enwog am greu meddyginiaethau cartref. Roedd ‘Manina Ointment’ a wnaed yn Abergwaun, yn gynnyrch adnabyddus ganrif yn ôl, pan oedd cymysgu moddion cartref dal yn gyffredin. Er bod yr oes wedi newid, mae cennin pedr yn cael eu tyfu yn gyffredin yma heddiw, ac yn ffynhonnell o galanthamine ar gyfer cyffur trin alzheimer’s modern.
O’r Dwyrain daw arferion lles a iechyd sy’n hwyl i ddisgyblion ddysgu amdanynt. Mae nifer o adnoddau ‘ioga’ trwy gyfrwng y Gymraeg ar gael erbyn hyn. Mae’n bwysig bod disgyblion yn gweld gwerth mewn cadw’n heini a bod yn greadigol, er mwyn sicrhau iechyd meddwl.
HERIAU
SEREN A SBARC
Byd Natur
Mae treulio amser allan yn yr awyr agored yn ffordd dda o gadw'n iach ac yn heini ond faint ydych chi'n wybod am yr hyn sydd o'ch amgylch chi? Faint o goed, blodau ac adar fedrwch chi enwi yn Gymraeg?
Pobl leol yn y sector iechyd
Pa bobl leol sy'n gweithio o fewn y sector iechyd? Sut mae eu gallu i siarad Cymraeg yn eu helpu yn y gwaith?
Y Gymraeg yn y sector iechyd
Pam mae'r Gymraeg yn bwysig o fewn y Gwasanaeth Iechyd? Sut mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn gwella eu gwasanaethau Cymraeg?
Miwsig i lonni'ch calon
Pa fiwsig Cymraeg rydych chi'n hoffi? Ydych chi'n gallu creu rhestr chwarae o fiswig Cymraeg ar gyfer gwneud ymarfer corff neu efallai miwsig Cymraeg er mwyn ymlacio?
Y Gwasnaeth Iechyd
Pa Gymro oedd yn rhan bwysig o greu ein Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol?