Efallai y bydd eich tiwtor yn gofyn ichi gadw cofnod dysgu neu ysgrifennu traethawd 'myfyriol'. Mae hwn yn fath gwahanol o aseiniad ac mae angen i chi ysgrifennu am sut mae'ch dysgu wedi effeithio arnoch chi a'ch datblygu chi. Mae angen i chi gynnwys:
Beth rydych chi wedi'i ddysgu
Beth na weithiodd allan fel y cynlluniwyd
Sut y byddwch chi'n defnyddio'r ddealltwriaeth honno yn y dyfodol
Nid yw'n golygu eich bod chi'n disgrifio'r hyn a ddigwyddodd neu'r hyn a wnaethoch. Mae angen i chi ddadansoddi'r sefyllfa. Mae hynny'n cynnwys ychwanegu manylion am eich meddyliau a'ch barn ar y profiad, sut y gallech chi wneud pethau'n wahanol neu'r hyn a weithiodd yn dda a pham. Gellid gofyn i chi hefyd gysylltu eich profiad ag ymchwil cefndir a nodi pa mor dda yr oedd eich profiad yn cyfateb i'r ymchwil honno.
Gall y cyflwyniad hwn eich helpu i ddeall beth i'w gynnwys mewn aseiniad ysgrifennu myfyriol a'r pynciau y mae angen i chi ysgrifennu amdanynt.
Canllaw defnyddiol ar gyfer creu aseiniad ysgrifennu myfyriol, gan gynnwys syniadau ar beth i'w gynnwys ac ymadroddion defnyddiol. (Saesneg yn unig)
Canllaw Cymraeg ar ysgrifennu logiau dysgu.
Canllaw ar gyfnodolion myfyriol gan gynnwys ymadroddion ac iaith a awgrymir.
The Reflective Practice Guide
Ar gael o gasgliad ar-lein y llyfrgell.
Becoming a Reflective Practitioner
Ar gael o gasgliad ar-lein y llyfrgell.
Os oes angen help neu gefnogaeth arnoch i ysgrifennu'ch aseiniadau, gofynnwch i'ch tiwtor. Gallwch hefyd gysylltu â'r tîm Cymorth Dysgu studyskills@gllm.ac.uk a all ddarparu cefnogaeth fwy personol.