Peidiwch â phoeni os byddwch, am ryw reswm neu'i gilydd, yn cael anhawster i astudio oherwydd gallwn gynnig nifer o wasanaethau i'ch helpu i lwyddo. Gall y cymorth fod am gyfnod byr neu drwy gydol eich cwrs; gall fod yn gymorth un-i-un neu'n gymorth mewn grŵp.
Gallwch chi neu'ch tiwtor personol gael gair â'r Tîm Cefnogi Dysgu studyskills@gllm.ac.uk i wybod rhagor am offer arbenigol ac am asesu anawsterau penodol fel dyslecsia. Gall y Coleg hefyd wneud trefniadau ychwanegol gyda byrddau arholi.
Lle gallwch gael awgrymiadau, cyngor a gwybodaeth i'ch arwain trwy dymor arholiadau ac asesiadau ac ymlaen i'r lefel nesa yn eich bywyd.