Mae dechrau arni a chynllunio aseiniadau'n gallu codi ofn ar rywun, yn enwedig os nad ydych wedi ysgrifennu aseiniad ers sbel. Ond mae yna ffyrdd o fynd i'r afael â gwaith a gawsoch gan eich tiwtor a fydd yn eich helpu i gynllunio, ysgrifennu a gorffen eich aseiniadau'n llwyddiannus ac mewn pryd.
Darllenwch friff yr aseiniad. Gallwch ddefnyddio nodiadau post-it, pwyntiau bwled neu fap meddwl i'ch helpu i ddeall:
Y cwestiwn y mae gofyn i chi ei ateb mewn gwirionedd
Beth yr ydych eisoes wedi’i ddysgu am hyn yn y dosbarth
Y cliwiau neu awgrymiadau o ran deunyddiau darllen a gawsoch gan eich tiwtor
Y prif bynciau y mae gofyn i chi eu trafod ym mhob paragraff neu adran
Pa mor hir y mae gofyn i’r aseiniad fod
Y math o aseiniad sydd dan sylw – traethawd, adroddiad, cyflwyniad, poster?
Erbyn pryd y dylid cyflwyno'r aseiniad?
Bob tro, cofiwch ofyn i'ch tiwtor am help i ddeall cwestiwn yr aseiniad a beth y mae disgwyl i chi ei wneud.
Os oes gennych draethawd manylach i'w ysgrifennu, mae'r fideo hwn yn rhoi cyngor gwych i chi. Mae'n cynnwys bod yn drefnus, chwalu'r cwestiwn, bod yn feirniadol ac ychwanegu strwythur (Saesneg yn unig)
Bydd gwybod y gwahaniaeth rhwng y mathau hyn o aseiniadau yn eich helpu i gynllunio'ch gwaith a sut i gyflwyno'ch atebion.
(Saesneg yn unig)
Un o'r darnau gorau o gyngor ar gyfer taclo gwaith yw darllen cwestiwn yr aseiniad ac yna darllen y cwestiwn eto! Rhaid i chi ateb y cwestiwn a ofynnwyd ichi, nid yr un rydych chi am iddyn nhw ei ofyn i chi.
Ddim yn deall y cwestiwn? Gallai'r esboniad hwn o eiriau tir comin a ddefnyddir fod o gymorth
(Saesneg yn unig)
I'ch helpu i gynllunio, gallwch ddefnyddio adnoddau fel Google Calendar, Google Sheets, Google Keep neu MindMeister sydd yn eich Apiau Google colegol. Gallwch hefyd ddefnyddio cynllunwyr calendrau ar-lein i greu amserlen ar eich rhan:
Os oes arnoch angen rhagor o help ac yn cael trafferth rheoli'ch gwaith, siaradwch â'ch tiwtor i ddechrau. Os ydych yn astudio ar gampws, gallwch hefyd ofyn i aelod o dîm y Llyfrgell libraryrhos@gllm.ac.uk . Yn ogystal, gallwch gysylltu â'r Tîm Cymorth Dysgu studyskills@gllm.ac.uk i gael help mwy personol.