Mae'r Rhyngrwyd wedi dod yn offeryn pwerus y medrwch ei ddefnyddio ar gyfer dysgu, ymchwil a hwyl. Ond gyda chymaint o wybodaeth ar-lein sut fedrwch chi ddod o hyd i wybodaeth ddibynadwy y medrwch ymddiried ynddi?
Mae yna ychydig o gamau yr ydych angen cymryd cyn i chi ddechrau chwilio ar-lein:
Darllenwch drwy eich aseiniad - pa gwestiwn ydych chi angen ei ateb?
Beth yw'r prif eiriau allweddol sydd yn cysylltu gyda'r wybodaeth rydych angen ei darganfod?
Ai chwilio'r Rhyngrwyd yw'r dewis gorau - efallai y bydd un o gronfeydd data'r llyfrgell yn fwy defnyddiol?
Pa fath o wefannau fydd yn rhoi'r wybodaeth rydych ei hangen - addysg, iechyd, gwyddonol, llywodraeth?
Ar ôl i chi ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol - ydych chi wedi gwirio pwy a'i hysgrifennodd a pham?
Ydych chi'n gwybod am y triciau chwilio fel y medrwch ddod o hyd i wybodaeth yn gynt?
Yn bwysicaf oll, peidiwch â defnyddio'r ddolen gyntaf sy'n ymddangos ar eich canlyniadau chwilio bob amser. Cymerwch amser i adolygu'ch canlyniadau a newid eich chwiliad i ddod o hyd i wybodaeth fwy perthnasol.
Awgrymiadau defnyddiol BBC Bitesize ar chwilio Rhyngrwyd yn dda. Mae'r rhain yn eich helpu i benderfynu a yw'r wybodaeth ar wefan yn gyfredol ac yn ddibynadwy. (Saesneg yn unig)
Nid yw teipio cwestiwn i mewn i beiriant chwilio yn ddefnyddiol iawn ar gyfer ymchwilio i'ch aseiniadau. Mae'r fideo hon yn rhoi awgrymiadau defnyddiol ar chwilio yn Google gan gynnwys defnyddio "dyfynodau", yr opsiwn NEU a'r symbol - minws (Saesneg yn unig)
Bydd y cyflwyniad hwn yn dweud mwy wrthych am y ffyrdd gorau o chwilio'r Rhyngrwyd, defnyddio offer Google a gwirio'r wybodaeth rydych chi'n dod o hyd iddi. Gallwch hefyd weithio trwy'r cyflwyniad fel cwrs Moodle ar-lein.
Cymorth ac opsiynau chwilio Google mwy manwl.
Os oes angen mwy o help arnoch neu os ydych chi'n poeni am drefnu'ch gwaith, siaradwch â'ch tiwtor yn gyntaf. Gallwch ofyn am help gan Dîm y Llyfrgell libraryrhos@gllm.ac.uk pan fyddwch chi'n astudio ar y campws. Gallwch hefyd gysylltu â'r Tîm Cymorth Dysgu studyskills@gllm.ac.uk i gael cymorth mwy personol.