Byddwch yn cael llawer o wybodaeth i gefnogi'ch dysgu, ynghyd â gwybodaeth gefndirol ar gyfer eich aseiniadau, gan eich tiwtoriaid. Ond, bydd disgwyl hefyd i chi ddarllen am eich pwnc a gwneud eich ymchwil eich hun. Gan fod hawl dysgwyr i fynychu'r campws a'r trefniadau o ran dyddiau cyswllt wedi newid, bydd y ffynonellau ar-lein a ddarperir gan y llyfrgell yn bwysicach nag erioed i'ch helpu i gwblhau eich gwaith.
Gellir cyrchu'r prif adnoddau sydd eu hangen arnoch trwy'ch cyfrif Gmail Coleg. Mae'r rhain yn cynnwys catalog y llyfrgell ar-lein, Google Classroom a Phorth ATHENs. Fe welwch hefyd y dolenni cyflym ychwanegol isod yn ddefnyddiol.
Sonnir am yr holl adnoddau perthnasol yn ystod cyfnod cynefino'ch cwrs, ond os bydd arnoch angen rhagor o wybodaeth neu gymorth i gael mynediad at adnoddau ar-lein, cysylltwch â thîm y llyfrgell ar libraryrhos@gllm.ac.uk neu holwch lyfrgellydd eich campws yn ystod eich dyddiau cyswllt.
Does dim rhaid i chi fod wedi mewngofnodi i gatalog y llyfrgell i allu ei ddefnyddio. Bydd yn help i chi ddod o hyd i werslyfrau, e-lyfrau, erthyglau a phapurau newydd. Gallwch ddarganfod sut i ddefnyddio'r catalog gyda'r Fideos Cymorth Catalog defnyddiol hyn.
Athens yw enw'r gwasanaeth a ddefnyddiwn i gael mynediad at yr holl e-lyfrau, e-gyfnodolion a'r cronfeydd data o adnoddau yr ydym wedi tanysgrifio iddyn nhw. Gallwch gael help i'w ddefnyddio gyda'r fideo defnyddiol Athens Help hwn.
Dewisiad o e-lyfrau, gwefannau, fideos ac erthyglau i'ch helpu gyda'ch cwrs.
Adnoddau ar-lein a grëwyd gan y coleg ar gyfer eich pwnc
Yn ddefnyddiol er mwyn benthyg o lyfrgelloedd eraill
Adroddiadau swyddogol am drafodaethau senedd y DU
Defnyddiwch eich e-bost myfyriwr i gofrestru. Dim ond ar y campws y cewch chi fynediad llawn.
Open University Research Online
Cronfa mynediad agored o weithiau ymchwil o gymuned ymchwil Y Brifysgol Agored
Gwasanaeth ffrydio fideos hyfforddiant ym maes diogelwch (mynediad llawn ar y campws)
Mynediad at bapurau newydd, cylchgronau, llyfrau llafar, comics ac adnoddau Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Cofnod o drafodion cyfarfodydd llawn neu sy'n ymwneud â busnes cyfarfodydd llawn