Mae meddwl yn feirniadol yn sgil y byddwch chi'n ei datblygu yn y Coleg. Mae'n golygu peidio â chymryd unrhyw wybodaeth rydych chi'n ei chael yn wyneb-werth a gallu barnu pa mor ddefnyddiol neu wir yw'r ffynhonnell. Dylech ofyn bob amser:
Pwy ysgrifennodd y wybodaeth?
Pam wnaethon nhw ei ysgrifennu - beth oedd eu rheswm?
Pa mor hen yw'r wybodaeth - a yw wedi dyddio?
Ar beth maen nhw wedi seilio eu tystiolaeth neu eu barn?
Sut mae'n helpu'ch dealltwriaeth?
Mae meddwl yn feirniadol yn golygu eich bod chi'n aros yn chwilfrydig wrth wneud ymchwil. Mae angen i chi ofyn o ble mae'r dystiolaeth yn dod a pha mor ddefnyddiol fydd hi i'ch aseiniad. Rydych chi'n edrych yn ddyfnach i'r wybodaeth ac yn gwneud dewisiadau gwybodus ynglŷn â sut rydych chi'n ei defnyddio.
Bydd y cyflwyniad hwn yn egluro hanfodion meddwl beirniadol, yr hyn y mae angen i chi ei gynnwys mewn aseiniad a sut i strwythuro'ch gwaith.
Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y daflen gwestiynau hon ac archwilio byd meddwl yn feirniadol .
Allwch chi wir gredu popeth rydych chi'n ei ddarllen ar-lein?
Sut allwch chi ddweud a yw ffynhonnell yn ffug?
Mae'r cyflwyniad hwn yn dangos prif nodweddion ysgrifennu academaidd a'r dull y mae angen i chi ei gymryd i gefnogi dadansoddiad beirniadol.
Mae'r fideo hon yn trafod y prif gamau y dylech eu cymryd i'ch helpu chi i feddwl yn greiddiol. Mae hyn yn cynnwys cwestiynu o ble mae'ch gwybodaeth yn dod ac ystyried barn eraill, hyd yn oed os ydych chi'n anghytuno â nhw. Mae hefyd ar gael fel tiwtorial ar-lein.
(Saesneg yn unig)
Mae'r e-lyfr hwn o'r llyfrgell yn trafod gwahanol ddulliau y gallwch eu defnyddio i fynd at eich ymchwil a'ch gwaith dosbarth gydag ymwybyddiaeth feirniadol.
(Saesneg yn unig, mewngofnodwch trwy 'OpenAthens')
Os oes angen mwy o help arnoch i gymhwyso meddwl beirniadol i'ch gwaith, siaradwch â'ch tiwtor yn gyntaf. Gallwch hefyd gysylltu â'r Llyfrgell yn libraryrhos@gllm.ac.uk. Gall eich tiwtor drefnu i staff y Llyfrgell gynnal sesiwn dosbarth ar sgiliau meddwl beirniadol. Gallwch hefyd gysylltu â'r Tîm Cymorth Dysgu studyskills@gllm.ac.uk i gael cymorth mwy personol.