Galwch draw i lyfrgell eich gwefan leol i fenthyg Chromebook. Mae stociau'n gyfyngedig ac mae'r galw'n uchel felly efallai y bydd yn rhaid i chi aros i un ddod ar gael.
Gweld ein fideos cymorth
Bydd y canllawiau hyn yn mynd â chi drwy'r broses osod
Mae'ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair yr un fath â'ch manylion e-bost colegol. Eich enw defnyddiwr yw eich cyfeiriad e-bost llawn (xxxx@gllm.ac.uk).
Os nad yw'r manylion hyn gennych, siaradwch efo'ch tiwtor a all ofyn i'r adran technoleg dysgu am y manylion.
Gwasgwch y botwm pŵer am 10 eiliad – neu pwyswch a daliwch Ctrl + Alt + Shift + r i lawr er mwyn rhoi'r nodwedd powerwash ar waith (os mai chi, y myfyriwr, sydd piau'r Chromebook)
De-gliciwch ar yr amser yn y gornel dde isaf ac ewch i Settings, Advanced Settings, Powerwash. Ar rai dyfeisiau Chromebook, rhaid pwyso a dal ar Ctrl + Alt + Shift + r.
Dewiswch Restart. > Select Powerwash > Continue
Yn gyntaf, agorwch Google Chrome a mewngofnodwch i'r porwr gwe gan ddefnyddio'ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair Gmail colegol. Ewch i'r Google App store a chwiliwch am Office Editing for Doc extension. Rŵan byddwch yn gallu lawrlwytho'r ddogfen fel arfer yn Moodle.
Ydych chi wedi mewngofnodi i'ch cyfrif colegol (xxxx@gllm.ac.uk)? Allgofnodwch o bob cyfrif arall a mewngofnodwch i'ch cyfrif colegol. Dylai’r rhai sy'n rhannu wirio eu gosodiadau rhannu.
Agorwch borwr Google Chrome, cliciwch ar yr eicon defnydd cyfredol yng nghornel dde uchaf y sgrin a mewngofnodi gyda'ch cyfrif Gmail colegol. Yna, cliciwch ar Settings a Sync all – Watch the help video.
Mae'n bosibl mai'r math o ffeil sydd ar fai. Yn eich gosodiadau, gallwch ddweud wrth yr iphone am gadw lluniau ar ffurf jpeg ac nid fel fersiwn Apple (HEIC).
Settings>camera>format>most compatible