Yma, byddwch yn darganfod gwybodaeth ar Sgiliau Astudio, Adnoddau Llyfrgell a Cymorth TG
Cysylltwch â ni: sgiliauastudio@gllm.ac.uk neu technolegdysgu@gllm.ac.uk
Yn yr adran hon gallwch ddod o hyd i gyngor a thiwtorialau i'ch helpu chi i ymarfer y sgiliau sydd eu hangen arnoch chi yn y coleg i gwblhau eich gwaith cwrs a'ch aseiniadau. Fe welwch hefyd y rhestr o sesiynau sgiliau astudio y gallwch eu cymryd yn y coleg, naill ai fel grŵp dosbarth neu ar gyfer cefnogaeth wedi'i phersonoli.
Yn yr adran hon fe welwch gyngor a fideos i helpu gyda:
Diogelwch ar-lein
Systemau Colegau
Gweithleoedd Google
Moodle
Cofnodi gwaith mewn llawysgrifen
Yn yr adran hon:
Cyflwyniad i wasanaethau llyfrgell y coleg
Dolenni i gael mynediad at adnoddau ar-lein y llyfrgell gan ddefnyddio ATHENs
Cymorth gyda defnyddio catalog y llyfrgell
Canllawiau pwnc
Gwybodaeth am oriau agor llyfrgelloedd unigol a manylion cyswllt
Atebion i'ch cwestiynau technoleg a ofynnir amlaf
Pam ydw i angen Sgiliau Astudio?
Yn aml rydym yn dod ar draws tiwtoriaid sy’n dweud wrthym ni fod myfyriwr angen cymorth gyda sgiliau astudio. Mae hyn yn dueddol o roi’r argraff bod y rhan fwyaf ohonom yn tyfu i fyny yn gwybod sut i astudio’n barod. Dydi hynny ddim yn wir. Does neb yn cael ei geni gyda’r gallu cynhenid i astudio. Mae Sgiliau Astudio; y gallu i ddarllen, cymryd nodiadau, ysgrifennu’n effeithiol, rheoli’ch amser ac i feddwl yn feirniadol, angen eu dysgu yn weithredol.
Peidiwch â meddwl bod astudio ar lefel coleg yn union fel astudio yn yr ysgol neu dipyn bach yn galetach. Mae’n galw am ystod o sgiliau hollol newydd. Bydd myfyrwyr call yn sylweddoli bod angen dysgu sut i astudio’n fwy effeithiol yn ogystal ag astudio’r cwrs ei hun. Mae’r sgiliau hyn i gyd yn sgiliau trosglwyddadwy y byddech yn gallu defnyddio ym myd gwaith. Dyma amlinelliad o’r sgiliau y byddech eu hangen.
1. Ar lefel coleg, dydi hi ddim yn ddigonol dim ond i ailadrodd beth yr ydych wedi clywed yn ystod eich gwersi. Mae’r pwyslais rŵan ar feddwl gwreiddiol ac annibynnol. Mae disgwyl i chi feddwl yn feirniadol, dod i gasgliadau personol ac i’w amddiffyn gydag ymresymiad a thystiolaeth.
2. Dysgu yw eich cyfrifoldebCHI rŵan. Does neb yn mynd i fynnu bod chi’n dysgu a datblygu fel yn yr ysgol. Bydd angen i chi ysgogi eich hun i’ wneud hynny ag i drefnu’ch bywyd fel bod hyn yn bosibl. Bydd y nifer o oriau yn y dosbarth yn fychan iawn, maen nhw yno dim ondi symbylu ac i ysgogi’ch dysgu. Mae disgwyl ichi neilltuo rhan o’ch eich amser personol i ddarllen, cymryd nodiadau, cynllunio aseiniadau a chofnodi’ch cynnydd. Bydd angen ichi bwyso’r anghenion hyn yn erbyn gofynion gweddill eich bywyd a’ch angen i gaelamser i ymlacio.
3. Bydd angen ichi ddysgu nifer o arddulliau ysgrifennu newydd, megis adroddiadffurfiol, dyddlyfr adlewyrchol, papur seminar a thraethawd. Mae gan rain i gyd strwythur arbennig a dull o’u hysgrifennu. Maen nhw’n medru ymddangos yn anodd iawn yn y lle cyntaf. Er hynny, mae cymorth wrth law gan fod y Ganolfan Dysgu a Chymorth Sgiliau Astudio yn cynnig nifer o ddeunyddiau cymorth. Mae’r rhain yn dangos mewn manylder sut i wneud synnwyr ohonynt.
4. Ar lefel AU, dydi aseiniadau ddim yno dim ond ichi ddangos eich gwybodaeth a sgiliau ond hefyd i helpu chi i ddatblygu fel myfyriwr. Byddwch yn barod i ddefnyddio’r adborth yr ydych yn ei gael gan eich tiwtoriaid fel canllaw i helpu chi gweddnewid a gwella’ch sgiliau astudio.
Eich Sesiynau Cymorth Astudio
Ein bwriad yw darparu cymorth sgiliau astudio o safon uchel i helpu chi gyda’ch gwaith cwrs, darllen, cymryd nodiadau, cynllunio, ysgrifennu a darllen proflenni. Bydd eich sesiynau yn cymryd rhan naill ai yn y Ganolfan Dysgu neu yn K23. Byddwn yn asesu eich anghenion a datblygu cynllun dysgu personol gyda chi. Byddwn yn adolygu eich cynllun bob 10 wythnos. Bydd y cynllun yn cynnwys pethau megis:
1.Cymorth gyda darllen a deall eich cyfarwyddiadau aseiniad.
2.Cymorth gyda mapiau meddwl a chynllunio aseiniadau.
3.Cyfarwyddyd ar sut i ymchwilio a chymryd nodiadau bras.
4.Arweiniad i strwythuro a gosod allan nifer o aseiniadau gwahanol.
5.Cymorth gyda pharagraffu, atalnodi a strwythuro brawddegau.
6.Arweiniad i gyfeirio a hawlfraint.
7.Cymorth gyda darllen proflenni ac ail-ddrafftio.
Byddwn yn cynnig o leiaf sesiwn o 1 awr bob wythnos. Cewch sesiynau cyfrwng Cymraeg neu Saesneg. Byddwn yn trefnu amsersy’n cyd-fynd gyda’ch amserlen. Os nad ydych chi’n gallu bod yn bresennol, pa bynnag y rheswm, gadewch i’r Swyddfa Cymorth Dysgu wybod. Ein cyfeiriad e-bost yw: learningsupport@gllm.ac.uk
Petai chi’n absennol ar nifer o achlysuron heb adael i ni wybod, gall fod yn bosibl i ni roi’r sesiwn i rywun arall.