Pan fyddwch yn cofrestru ar gwrs yn y coleg, byddwch yn cael cyfrif e-bost Google (Gmail). Yn sgil hyn, cewch fynediad i nifer fawr o adnoddau Google defnyddiol. Un o'r rhain yw Google Drive. Gofod ar-lein yw hwn lle gallwch lwytho a threfnu ffeiliau. Gallwch hefyd greu eich gwaith mewn dogfennau ar-lein, creu dogfennau grŵp a rhannu'ch gwaith gyda'ch tiwtoriaid. Gan eich bod yn gallu mynd at eich gwaith yn y coleg neu gartref, mae hwn yn ofod ar-lein defnyddiol dros ben.
Yn ogystal â'ch Gmail a'r Google Drive, mae'n bosibl y bydd eich tiwtor yn creu lle ar-lein yn Google Classroom ar gyfer eich cwrs neu'n creu tudalen gwe i'ch grŵp yn Google Sites. Os ydych yn defnyddio neu'n benthyca gliniadur ChromeBook yn y coleg, byddwch yn defnyddio Google Drive hefyd.
Mae'r fideo defnyddiol hwn yn dangos hanfodion trefnu eich ffeiliau yn gyriant Google.
This useful video demonstrates the basics of organising your files in Google drive.
NEU ymwelwch â gwefannau cymorth swyddogol Google..
OR visit the Google official support sites..
Os nad ydych wedi defnyddio system ffeilio ar-lein o'r blaen, peidiwch â phoeni. Yn ystod eich cyfnod cynefino, bydd eich tiwtor yn eich rhoi ar ben y ffordd gyda'r holl fannau gweithio ar-lein y byddwch yn eu defnyddio yn y coleg. technolegdysgu@gllm.ac.uk hefyd roi cymorth a chefnogaeth ychwanegol i chi.
Neu fe allech chi weithio trwy'r wers Google hon..
(Saesneg yn Unig)Beth yw Google Drive
Sut i gael mynediad at Google Drive
Sut i greu, uwchlwytho, a lawrlwytho ffeiliau
Sut i chwilio a threfnu ffeiliau
Sut i rannu ffeiliau