Mae rheoli'ch amser yn sgìl pwysig i'w ddysgu. Bydd yn eich helpu i gynllunio ymlaen a chael trefn ar eich gwaith. Bydd hyn yn eich atal rhag gadael popeth tan y munud olaf ac yn eich galluogi i gael cydbwysedd rhwng y pethau sy'n mynd â'ch amser.
Edrychwch beth yw dyddiadau cyflwyno'ch gwaith cwrs a'u nodi yn eich dyddiadur
Gwnewch restr o'r pethau y mae gofyn i chi eu gwneud ym mhob un o'ch pynciau
Ar sail dyddiadau cyflwyno drafftiau neu waith terfynol, blaenoriaethwch y pethau y mae gofyn i chi eu gwneud
Rhannwch eich aseiniad neu'ch ymchwil yn adrannau – beth mae'n rhaid i chi ei wneud cyn y gallwch symud ymlaen i'r rhan nesaf?
Trefnwch eich rhestr o bethau i'w gwneud yn ôl eu pwysigrwydd a faint o amser y credwch y mae gofyn i chi ei dreulio ar bob un
Gosodwch dargedau o ran yr hyn yr hoffech ei gyflawni – gallwch wneud hyn yn ôl diwrnod neu wythnos
Meddyliwch am pryd ac yn lle yr ydych yn gallu astudio orau
I'ch helpu i ganolbwyntio, pennwch derfynau amser i'ch sesiynau astudio
*Cofiwch* fod cymryd seibiant rheolaidd a gwneud yn siŵr bod gennych amser i wneud pethau yr ydych yn eu mwynhau hefyd yn elfen bwysig o reoli amser yn llwyddiannus.
Os ydych chi'n teimlo'n bryderus neu'n poeni am drefnu'ch amser, siaradwch â'ch tiwtor. Gallwch hefyd gysylltu â'r Tîm Cymorth Dysgu studyskills@gllm.ac.uk a Thîm Lles y coleg staysafe@gllm.ac.uk i gael cefnogaeth fwy personol.
Bydd y wefan hon yn defnyddio'r dyddiad cychwyn a chyflwyno aseiniadau i gyfrifo'r amser y mae angen i chi ei dreulio ar gynllunio, ymchwilio ac ysgrifennu.
Bydd yr amserlen ar-lein hon yn defnyddio'r dyddiadau cychwyn a chyflwyno aseiniadau i weithio allan pa adrannau y dylech fod yn gweithio arnynt a phryd, gydag awgrymiadau ysgrifennu a chynllunio defnyddiol.