Os ydych yn gallu darllen hwn rydych yn defnyddio'r rhyngrwyd. Rydych yn defnyddio'r rhyngrwyd y funud hon.
Ond ydych chi'n ei defnyddio'n ddiogel?
Ydych chi'n defnyddio cyfrineiriau cryf?
Ydych chi'n gwybod pwy all weld eich postiadau ar Facebook?
Ydych chi'n adnabod pob un o'r 1653 o ffrindiau sydd gennych chi ar-lein?
Ydych chi'n gwybod beth allwn i ddod i wybod amdanoch drwy ddefnyddio Google?
Ydych chi'n gwybod beth i'w wneud os ydych yn cael eich poenydio ar-lein?
Os ydych angen unrhyw adnoddau neu os oes gennych unrhyw gwestiynau anfonwch e-bost learningtechnology@gllm.ac.uk
Mae pob un o'r adnoddau hyn yn cysylltu â thiwtorial rhyngweithiol y gallwch weithio drwyddo i gael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Fe'ch anogir i fewngofnodi i'ch cyfrif Moodle a chofrestru. Nid oes angen allwedd cofrestru. Sylwch fod yr adnoddau dysgu cyfunol hyn ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd
(Angen Cyfrif Am Ddim)