Digwyddiadau'r flwyddyn hyd yma
Dydd Miwsig Cymru - Ar ddydd Gwener, Chwefror y 4ydd, roedd y plant wrth eu boddau yn dysgu am gantorion Cymru ynghyd a chanu rhai o'u hoff ganeuon. Rhoddwyd cyfleoedd iddynt wrnado ac ymfalchio yn yr holl dalent sydd wedi ei wreiddio yma'n Gymru. Rhoddodd y diwrnod hefyd gyfle iddynt adlewyrchu ar pwysigrwydd ein iaith a'n diwylliant cenedlaethol a lleol.
Prosiect ein llais ni - Mae prsoiect 'Ein Llais Ni' yn gyfle i rhai o'n athrawon fod yn ran o rwydwaith sydd yn datblygu ymhellach sgiliau athrawon i wella safonau llafar y Gymraeg. Yn dilyn cyfnodau estynedig o glo Cofid19, mae datblygu'r Gymraeg yn un o flaenoriaethau'r ysgol a'r dalgylch i gyd. Rydym yn edrych ymlaen at weld pa strategaethau mae ysgolion eraill yn defnyddio a gweld pa rhai sydd am weithio orau yn Ysgol y Borth. Yn barod rydym wedi derbyn syniadau o chwarae miwsig Cymraeg mewn sefyllfaoedd anffurfiol, ynghyd ag atgyfodi 'Siaradwr Cymraeg yr Wythnos' gyda'r disgyblion. Yr wyf yn sicr, beth bynnag sydd yn cael ei weithredu, y bydd yn llwyddiannus yma. Fe wnaawn rannu mwy gyda chi wrth i'r prosiect ddatblygu ymhellach.
Cyngor Ysgol - Mae'r cyngor ysgol disgyblion yn chwarae rhan allweddol ym mywyd yr ysgol, drwy ein cynghori a'n helpu i wella'r ysgol ei hun. Mae cyfleoedd parhaus iddynt drafod gyda Miss Williams a chynnig syniadau ar sut gall yr ysgol arddangos ei gymreictod a rhannu'r balchder yna gyda'r gymuned ehangach.
Cyntedd yr ysgol - Yn dilyn sgyrsiau gyda'r cyngor ysgol, mae'r ysgol wedi penderfynu addurno mynedfa a chyntedd yr ysgol er mwyn hyrwyddo Cymreictod yr ysgol. Bydd yn dangos i bawb sydd yn cerdded dros drothwy'r drws ein bod yn ymfalchio yn ein diwylliant, tra hefyd yn dangos parch a dealltwriaeth am ddiwylliannau eraill. Bydd hwn hefyd yn gyfle i ni gydnabod a dathlu ein bod yn ysgol cynhwysol, gyda disgyblion o wledydd gwahanol yn mynychu yma.
Miwsig Cymraeg amser cinio - Yn dilyn sgyrsiau eraill gyda'r cyngor ysgol, mae'r ysgol wedi penderfynu chwarae cerddoriaeth Cymraeg wrth i'r plant fwytau'u cinio. Bydd hyn yn rhoi cyfleoedd pellach i'r plant fwynhau amrywiaeth o fiwsig gwych sydd gennym yn ein gwlad.
Eisteddfod yr Urdd 2023 - Mae Ysgol y Borth wedi bod yn ysgol llwyddiannus iawn wrth gystadlu yn yr Eisteddfod yn flynyddol, gyda nifer fawr o'n disgyblion yn ennill yn lleol, yn sirol ac yn llwyddo i berfformio ar y llwyfan yn genedlaethol. Yn affodus, fe wnaeth Cofid19 chwalu ychydig ar ein momentwm. Fodd bynnag, rydym y flwyddyn hon yn ail-gydio mewn cystadlu drwy geisio mewn partion cerdd dant, gyda disgyblion eraill yn perfformio'n unigol. Hyderwn y bydd hwn y sylfaen i ni gyrraedd yr un lefelau o gystadlu roedd yn bodoli cyn y pandemig.
Events of the year so far
Welsh Music Day - On Friday, February 4th, the children were enjoying learning about Welsh singers as well as singing some of their favourite songs. They were given opportunities to listen and be proud of all the talent that is rooted here in Wales. The day also gave them an opportunity to reflect on the importance of our language to our national and local culture.
'Ein Llais Ni' project - The 'Ein Llais Ni' project is an opportunity for some of our teachers to be part of a network that further develops teachers' skills to improve spoken Welsh. Following extended periods of Cofid19 lockdowns , developing the Welsh language is one of the school's and catchment area's priorities. We look forward to seeing which strategies other schools use and which ones work best at Ysgol y Borth. We have already received ideas of playing a Welsh language songs in informal situations, along with resurrecting 'Welsh Speaker of the Week' with the pupils. I am sure that whatever is implemented, it will be successful here. We will share more with you as the project develops further.
School Council - The pupil school council plays a key role in the life of the school, by advising and helping us to improve the school itself. There are ongoing opportunities for them to discuss with Miss Williams and offer ideas on how the school can share its Welsh culture and that pride with the wider community.
School Foyer - Following discussions with the school council, the school has decided to decorate the school foyer in order to promote the school community. It will show everyone who walks through the door that we are proud of our culture, while also having the respect and understanding of other cultures. This will also be an opportunity for us to recognise and celebrate that we are an inclusive school, with pupils from different countries attending here.
Lunchtime Welsh Music - Following other discussions with the school council, the school has decided to play Welsh music as the children eat their lunch. This will give the children further opportunities to enjoy the variety of wonderful music we have in our country.
Urdd Eisteddfod 2023 - Ysgol y Borth has been a very successful school for competing in the annual Eisteddfod, with many of our pupils winning locally, on a county level and performing on stage nationally. Regrettably, Covid19 slightly stopped our momentum. However, this year we are re-entering competition by entering Cerdd Dant parties, with other pupils performing individually. We trust that this will be the foundation for us to reach the same levels of competition that existed before the pandemic.
Gorymdaith Cymraeg 2023
Gwych oedd cael teithio strydoedd ym Mhorthaethwy gydag ysgolion y dalgylch at yr Ysgol Uwchradd yn dathlu ein Cymrictod. Roedd yn ganu a mwy o ganu ac ambell i Ogi Ogi Ogi hefyd. Roedd y plant wrth eu boddau. Diolch i bawb am drefnu.
It was wonderful to walk the streets of Porthaethwy with the other school from the catchment area to celebrate the Welsh culture and ability to speak the language. There was singing and more singing and the odd Ogi Ogi Ogi too. Everyone had a great time and thank you to all the community that came to support use. Thanks to everyone that organised the event.
Wythnos Cymru Cwl - Rhwng Mawrth 1af a Mawrth y 4ydd, fe fydd yr ysgol yn cynllunio wythnos llawn gweithgareddau ar gyfer y disgyblion ac yn ymgorffori Dydd Gwyl Dewi, Diwrnod Crempog a Diwrnod y Llyfr i fewn i'r gweithgareddau. Bydd cyfle i ddisgyblion gogino, dawnsio a chanu, ynghyd a gweithgareddau bydd yn cyfoethogi ymhellach eu dealltwriaeth o'n diwylliant, eu hanes a'u dyfodol. Bydd y disgyblion hefyd yn cael y cyfle i cael eu dysgu gan nifer o athrawon gwahanol, wrth iddynt gylchdroi o amgylch y dosbarthiadau i dderbyn profiadau gwahanol.
Cymru Cwl week - Between March 1st and March 4th, the school plans a week full of activities for the pupils that incorporates St David's Day, Pancake Day and World Book Day into the activities. Pupils will have the opportunity to cook, dance and sing along with activities that will further enhance their understanding of our culture, history and future. The pupils will also have the opportunity to be taught by a number of different teachers, as they rotate around the classes to receive different experiences.
Beth yw’r Siarter Iaith?
Cynllun er mwyn hybu’r defnydd o Gymraeg yn gymdeithasol yn ysgolion cynradd Cymru yw’r Siarter Iaith. Maent wedi cyflwyno dau gymeriad Newydd sef Seren a Sbarc. Bydd y ddau arwr yma ar bosteri a bathodynnau yn annog plant rhwng 4 a 7 oed i ddefnyddio’r iaith ar yr iard, yn y cartref ac yn y dosbarth.
Fel rhan o'r Siarter, mae pob ysgol unigol yn cwblhau ymarfer sylfaenol i bennu defnydd o'r iaith cyn datblygu cynllun gweithredu i weithio tuag at wobr efydd, arian neu aur. Mae'r cynllun yn annog cyfranogiad gan bob aelod o gymuned yr ysgol - yn ddisgyblion, rhieni, llywodraethwyr ysgol a'r gymuned ehangach.
Mae cyfathrebu yn rhan bwysig o fywyd cyfoes - mae tyfu fyny yn ddwyieithog yn golygu bydd plant yn datblygu sgiliau bywyd. Gellir ddarllen mwy am y Siarter Iaith yn eich ardal chi ar wefannau eich ysgol lleol.
Mae gan gymeriadau'r Siarter, Seren a Sbarc, gân arbennig, gyda’r geiriau i ganu gyda’r gân yn y fideo. Mae’r gân hefyd ar gael ar Spotify.
What is The Welsh Language Charter?
The Welsh Language Charter is a project to encourage the use of Welsh socially in primary schools in Wales. It has welcomed two characters, Seren a Sbarc. The two heroes on posters and badges will encourage children between 4 and 7 years old to use the Welsh language in the playground, at home and the classroom.
As part of the Charter, each individual school completes a baseline exercise to determine current language use before developing an action plan to work towards a bronze, silver or gold award. It encourages participation from every member of the school community - pupils, parents, school governors and the wider community.
Communication is at the heart of modern life – growing up bilingual meant that children will be developing skills for life. You can read more about the Welsh Language Charter in your area on your local schools website.
The Siarter Iaith mascots, Seren and Sbarc, have a special song, which you can sing along with my following the lyrics in the video. The song is also available on Spotify.
Creuwyd gan blant a staff Ysgol y Borth - Created by the pupils and staff of Ysgol y Borth
©Hawlfraint Ysgol y Borth / ©Copyright Ysgol y Borth