Ysgol y Borth
Agor drysau i'r dyfodol
Opening doors to the future
Agor drysau i'r dyfodol
Opening doors to the future
Agorwyd Ysgol y Borth yn 1976. Daw mwyafrif y plant o'r stadau tai sy'n amgylchynnu'r ysgol Teithiai rhai plant o bentrefi cyfagos Llansadwrn a Rhoscefnhir ac hefyd daw ychydig o ardaloedd eraill y tu allan i ddalgylch yr ysgol. Daw rhai plant o amrywiol wledydd a'u rhieni yn astudio dros dro yn y Brifysgol ym Mangor neu yn Ysbyty Gwynedd. Felly mae'r ysgol yn gwasanaethu cymuned eang ag iddi amrywiaeth ieithyddol a chymdeithasol.
Bydd y diwrnod ysgol rhwng 9-3.15 ar gyfer yr Adran Iau a rhwng 9-3 o'r gloch ar gyfer Adran y Babanod. Byddwn yn derbyn plant unwaith y flwyddyn ar ddechrau Medi, sef y Medi ar ôl penblwydd y disgybl yn dair oed a gwneir y gorau bob amser i sicrhau bod pob plentyn yn teimlo yn rhan o deulu'r ysgol.
Rydym hefyd yn cynnig clwb brewast i bob disybl, sydd yn cychwyn yn brydlon am 8yb, gyda thost, grawnfwyd a diod yn cael eu cynnig yn rhad ac am ddim
Mae gennym clwb gofal cofleidiol amser cini i'n disgyblion Meithrin rhwng 11:30 a 12:30.
Yn ychwanegol mae gennym ofal ar ol ysgol ysgol sydd yn parahau tan 6yh ac tan 5yh ar ddydd Gwener. Satff yr ysgol sydd yn gwasnaethau'r holl ddarpariaeth, felly mi fydd bob oedolyn yn cyfarwydd i'r plant.
Yn ystod ei gyfnod yn yr ysgol ceisiwn sicrhau bod pob disgybl yn datblygu i'w lawn potensial , yn cael ei gyflwyno i'r etifeddiaeth Gymreig ac yn tyfu fel aelod llawn o'r gymdeithas aml-ddiwylliannol sy'n prysur newid.
Ysgol y Borth was opened in 1976. Most of the children come from the immediate catchment area of housing estates surrounding the school. Some children travel from the surrounding villages of Llansadwrn and Rhoscefnhir as well as some from other areas outside the school's catchment area. Some children are from other countries with their parents studying at the University in Bangor working in Ysbyty Gwynedd. The school, therefore, services a linguistically and socially varied community.
The school day is between 9 - 3.15 for the Junior Department and between 9 - 3 pm. for the Infant Department. Children are admitted once a year, at the beginning of September, or the September immediately after the child's third birthday, and we do our utmost to ensure that the child feels settled and part of the school community.
We also have a breakfast club service which starts at 8am every morning, with toast, cereal and drink being served free of charge.
We also provide a lunch time wrap around club for our nursery pupils, which runs between 11:30-12:30 - Monday to Thursday
In addition - we have after school care which is available until 6pm Monday to Thursday and 5pm every Friday. all of this provision is provided by the school's staff, which ensures all adults are known by the pupils.
During the child's time at Ysgol y Borth, we strive to ensure that every pupil develops to his potential, is introduced to the Welsh heritage and matures as a full member of the constantly changing multi-cultural society.
Creuwyd gan blant a staff Ysgol y Borth - Created by the pupils and staff of Ysgol y Borth
©Hawlfraint Ysgol y Borth / ©Copyright Ysgol y Borth