Bu Leisa Mererid yn ymweld â'r ysgol i ddysgu ychydig o yoga i ni yn seiliedig ar ei llyfr 'Y Wariar Bach'. Cawsom lawer o hwyl yn dysgu am anifeiliaid y Congo drwy symudiad a yoga. Rydym yn edrych ymlaen at ddechrau ar ein thema newydd y tymor hwn!
Rydym wedi bod wrthi yn brysur yng ngardd yr ysgol yn plannu tatws!
Gwneud y mwyaf o'r awyr agored yw beth rydym wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar wrth fynd allan i eistedd ar gyfer ein sesiynau 'Snac a Sgwrs'. Yn ystod ein sesiynau, rydym yn sgwrsio â'n gilydd ac yn rhannu unrhyw newyddion sydd gennym, tra hefyd yn gwneud y gorau o'r byd natur o'n cwmpas!
Roedd hi’n wythnos Cymru Cŵl yn yr ysgol a chawsom wythnos brysur iawn yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau hwyliog yn seiliedig ar Gymru. Buom yn dawnsio gwerin, adeiladu cestyll, gwneud merched Cymreig, gwehyddu tapestri Cymreig ac fe ganon amrywiaeth o ganeuon Cymraeg. Am hwyl!