Y GROMLECH
ADNODDAU I YSGOLION SIR BENFRO
ADNODDAU I YSGOLION SIR BENFRO
Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Penfro yn cynnwys bron y cyfan o arfordir Penfro, pob ynys oddi ar y lan, llawer o dir o gwmpas yr Afon Cleddau ac ardaloedd mawr o fynyddoedd y Preseli a Chwm Gwaun. Mae’n un o’r Parciau Cenedlaethol lleiaf yn y Deyrnas Unedig, ond mae ganddo un o’r tirweddau mwyaf amrywiol. Mae iddo siâp digon rhyfedd – ar ei fwyaf llydan, tua 16km o led, ac ar ei fwyaf cul mae tua 100m. Poblogaeth y Parc ydy 22,350 (2018) Hyd yr arfordir ydy 420 km. Mae’r Parc tua 615 km sgwâr. Eiddo preifat ydy’r rhan fwyaf ohono. Mae llai na 2% o ardal y Parc Cenedlaethol yn eiddo i Awdurdod y Parc. Mae dŵr môr glân wrth yr arfordir – 11 traeth Baner Las, 13 traeth Arfordir Glas a 15 Gwobr Glan Môr (2019). Ond beth yw hanes Parciau Cenedlaethol? Pasiwyd Deddf y Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad ym 1949. Mae Parciau Cenedlaethol yn bodoli er mwyn sicrhau bod y tirweddau arbennig hyn yn cael eu gwarchod i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau. Mae dau arall yng Nghymru, sef – Parc Cenedlaethol Eryri a Parc Cenedlaethol Bannau’r Brycheiniog.
Mae yna 15 Parc Cenedlaethol yn y Deyrnas Unedig. Mae deg yn Lloegr – Ardal y Pegynau, Dartmoor, Dolydd Swydd Efrog, Ardal y Llynnoedd, Exmoor, The Broads, Rhosydd Gogledd Efrog, Northumberland, The New Forest a Thwyni’r De. Mae dau yn yr Alban, sef- Loch Lomond a’r Trossachs, Y Cairngorms (Parc Cenedlaethol mwyaf y Deyrnas Unedig). Ein Parc Cenedlaethol ni yw’r unig un yn y Deyrnas Unedig sydd wedi ei ddynodi’n bennaf am ei dirwedd arfordirol. Nid oes un lle yn y Parc Cenedlaethol sy’n fwy na 10 milltir o’r môr. Dyfrffordd Aberdaugleddau yw’r ail harbwr naturiol dyfnaf yn y Byd (ar ôl Harbwr Sydney yn Awstralia). Yn ecolegol, mae’r Parc gyda’r mwyaf cyfoethog ac amrywiol yng Nghymru ac mae’n cael ei chydnabod fel un sydd o bwysigrwydd rhyngwladol am amrywiaeth eang o gynefinoedd o ansawdd uchel a rhywogaethau prin. Mae traean o’r parau o frain coesgoch sy’n nythu ym Mhrydain yn Sir Benfro. Hefyd, mae Ynys Gwales yn un o gynefinoedd mwyaf y byd ar gyfer y fulfran wen.
Dros y canrifoedd aeth pobl Sir Benfro i bedwar ban byd gan ddwyn eu hiraeth gyda hwy. Oherwydd hyn, gwelir lleoliadau hynod yn Seland Newydd, UDA a Phatagonia sydd wedi eu henwi ar ôl darnau o Sir Benfro e.e. Milford Sound (Seland Newydd), Pembroke (Maine, Massachusetts ac Efrog Newydd, UDA) a Narberth ym Mhennsylvania. Beth am gymharu eich ardal chi gydag un ohonynt?
Dysgwch 6 ffaith am barc cenedlaethol Sir Benfro ar eich cof.
Hoffai Seren a Sbarc ddysgu mwy am weithwyr y Parc. Beth am gyfweld â un o siaradwyr Cymraeg Parc Cenedlaethol Sir Benfro a dysgu am eu gwaith.
Mae Seren a Sbarc eisiau eich help i greu pamffled am y Gymraeg i ymwelwyr. Hoffen nhw bod y pamffled yn dysgu geiriau ac ymadroddion Cymraeg y gall pobl eu defnyddio yma ar wyliau.
Mae Seren yn dwlu ar gerddoriaeth o bob math. Ydych chi'n gallu darganfod caneuon sy'n son am harddwch naturiol ein sir?
Mae Sbarc yn dwlu ar farddoniaeth. Gallwch chi ddod o hyd i farddoniaeth sy'n son am harddwch Sir Benfro?