Y GROMLECH
ADNODDAU I YSGOLION SIR BENFRO
Ein stori ni - Traed... cam... a naid!
Y Gofeb Rhyfel / The War Memorial
Dyma fwy o luniau i chi eu hystyried. Beth yw'r cysylltiad?
O'N BRO I'R BYD
Dechrau wrth ein traed
Cam i weld Cymru
A naid i weld y byd!
Munud i feddwl
Dechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914 a daeth i ben yn 1918. Dyma'r tro cyntaf y defnyddiwyd arfau cemegol, a'r tro cyntaf y gollyngwyd bomiau o awyrennau. Roedd yn gyfnod o newidiadau mawr, gan roi terfyn ar yr hen drefn a pharatoi'r ffordd i'r drefn newydd. Yn Sir Benfro, y Llongau-U gafodd yr effaith fwyaf ar gymdeithas. Adeiladwyd nifer o safleoedd gwylio o gwmpas yr arfordir er mwyn tracio eu symudiadau. Mae safleoedd llongddrylliadau hefyd yn frith o gwmpas yr arfordir. Llongddrylliad y Lusitania, (Mai 1915), a fu’n galw’n rheolaidd yn Abergwaun, oedd un o ddigwyddiadau erchyll blwyddyn gyntaf y brwydro. Bu porthladd Aberdaugleddau yn ganolog i weithgareddau y llynges ym Môr yr Iwerydd ar hyd y bedair blynedd.
Chwaraeodd David Lloyd George ran ganolog yn hanes y cyfnod. Mae cysylltiadau ganddo ag ardaloedd ger Hwlffordd ac Wdig.
Gwelodd y cyfnod ddatblygiad yn nhechnoleg ffotograffiaeth ac mae hyn i weld yng nghasgliadau amgueddfeydd y Sir. Gwelir lluniau sawl arwr cyfnod y brwydro a oedd yn enedigol o’r Sir. Gwelir hefyd gweithgareddau disgyblion ysgol i gasglu arian ac adnoddau i helpu’r milwyr a morwyr.
Mae cofeb yn sefyll mewn nifer o bentrefi Sir Benfro, naill ai yn yr eglwys, y capel neu ar wal y neuadd. Codwyd sawl Neuadd Goffa hefyd. Pentref Herbrandston yw’r unig bentref yn y sir sy’n cael ei adnabod fel ‘pentref lwcus’ - h.y. ni chollwyd un o’i meibion adeg y brwydro.
HERIAU
SEREN A SBARC
Yr Ysgwrm
Roedd Hedd Wyn yn byw yn 'Yr Ysgwrn' ger Trawsfynydd. Beth rydych chi'n gwybod am ei gartref a'r ardal?
Hedd Wyn
Ydych chi'n gwybod pwy oedd Hedd Wyn? Beth oedd cysylltiad Hedd Wyn gyda rhyfel ac hefyd yr Eisteddfod?
Dysgu'r Iaith
Mae rhyfel dal yn gorfodi pobl i ffoi o'u gwlad er mwyn cael lloches. Ydych chi'n gallu darganfod stori am berson neu deulu sydd wedi ffoi i Gymru ac wedi dysgu Cymraeg?
Caneuon Heddwch
Beth am wrando ar ganeuon heddwch gan artistiaid Cymraeg? Mae sawl un o'r caneuon ar gael ar YouTube.
'A oes heddwch?'
Ydych chi'n gwybod hanes y seremoni cadeirio? Beth sy'n digwydd mewn seremoni? Ydych chi'n cadeirio'r bardd buddugol fel hyn yn eich Eisteddfod ysgol?
Cerddi am Hedd Wyn
Mae sawl bardd wedi ysgrifennu cerdd am Hedd Wyn. Beth am ddarllen rhai ohonynt e.e 'Hedd Wyn' gan R.Williams Parry?