Y GROMLECH
ADNODDAU I YSGOLION SIR BENFRO
ADNODDAU I YSGOLION SIR BENFRO
Wrth edrych ar dirlun Sir Benfro heddiw, mae’n anodd credu fod cloddio glo wedi bod mor bwysig yma ar un adeg. Ym 1601, mae George Owen, yr hanesydd o Drefdraeth yn ysgrifennu am faes glo Sir Benfro gan ddweud “…Gellir ystyried glo fel un o brif gynhyrchion ein sir ac mae mor angenrheidiol fel y byddem mewn trallod mawr hebddo." Gorffenwyd mwyngloddio yma yn y 1950au, ac yn awr mae'n anodd dod o hyd i'r ychydig dystiolaeth o'r diwydiant hwn sy'n weddill.
Ym mhentref Lanshipping, ceir cofeb syml ar gyfer pennod drist yn yr hanes. Collwyd 40 o lowyr y ‘Garden Pit’ yn 1844. Roedd 23 ohonynt o dan deunaw oed. Poddi gwnaethant wrth weithio mewn darn o’r pwll a oedd yn ymestyn i wely’r môr. Roedd y to yn fregus oherwydd pwysau’r llanw a daeth y cyfan i lawr ar eu pennau. Gellir trafod rôl plant yn hanes y diwydiant glo yng Nghymru a sut y deddfwyd er mwyn diogelu plant. Gellir cymharu effaith y drychineb hon gydag effaith ‘Cwymp Aberfan, 1966’.
Mae llawer o adnoddau addysgol ar safle ‘Amgueddfa Big Pit’ sydd yn adrodd hanes y diwydiant yn Sir Benfro, yng Nghymru ac ar draws Prydain. Yn yr 1970au roedd dros hanner cant o lofeydd yng Nghymru. Oes glofeydd yn dal i weithredu yng Nghymru heddi? Pam nad yw glo mor bwysig? Beth yw manteision ‘Ynni Gwyrdd’? Beth fedrwch chi ddarganfod am y ‘Ddeddf atal llosgi glo mewn tai 2023.’ Cewch wybodaeth ar safwe Canolfan y Dechnoleg Amgen, Machynlleth. Mae’r Ganolfan wedi bodoli ers degawdau, ac yn ddolen bwysig yn rhwydwaith ymchwil byd ar gyfer ynni hydro, solar, biomas ay
Ble roedd pyllau glo Sir Benfro a Chymru?
Sut oedd bywyd gwaith yn y pyllau glo?
Beth yw ystyr yr idiom 'Dim gobaith caneri'? Pa idiomau eraill rydych chi'n wybod ac yn eu defnyddio?
Yr oedd teuluoedd cyfan yn gadael Sir Benfro, yn aml, slawer dydd, er mwyn dechrau gwell bywyd. Byddent yn defnyddio caneuon i'w hatgoffa o’r ‘hen fywyd’, yn arbennig hwiangerddi neu ganeuon gwaith.
Beth ddigwyddodd yn Aberfan?