Y GROMLECH
ADNODDAU I YSGOLION SIR BENFRO
ADNODDAU I YSGOLION SIR BENFRO
Traddodiadau Sir Benfro
Pam mae ‘Cawell y Dryw’ o Farloes yn Amgueddfa Sain Ffagan? Beth yw ei hanes? A fu’r Fari Lwyd neu y ‘berllan’ yn cael eu defnyddio yn Sir Benfro erioed? Mae llawer iawn o wybodaeth am arferion gwerin ar gael yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan. Hefyd mae awduron fel Catrin Stephens a Brian John wedi cofnodi gwybodaeth am ein traddodiadau.
Pa arferion ‘Blwyddyn Newydd ‘ sydd yn eich ardal? Ydych chi yn gwybod am ‘Yr Hen Galan’ yng Nghwm Gwaun ? A fu eich mam-gu neu dat-cu yn dathlu y Nadolig neu’r Flwyddyn Newydd yn wahanol i chi? Mae gan Sir Benfro a Chymru nifer fawr o arferion gwerin diddorol, weithiau yn debyg i eraill ym Mhrydain ac yn Ewrop. Ydy globaleiddio yn effeithio ar hyn? Gellir trafod y ffordd mae cyd-ddibyniaeth, integreiddiad a rhyngweithiad cynyddol rhwng pobl a gwledydd ar draws y byd.
Beth am draddodiadau cyfoes. Efallai y buoch yn ymdrochi yn y môr yn Amroth, Tydrath, Tyddewi a Llanusyllt ar ddechrau’r flwyddyn? Traddodiad newydd ydy hwn, ond maen nhw hefyd yn dathlu fel hyn yn Abersoch, Penrhyn Llŷn ac Ynys y Barri ger Caerdydd.
Mae ‘hela’r dryw’ yn boblogaidd yn Iwerddon hefyd. Gallwn gymharu traddodiadau ein hardal â thraddodiadau tramor e.e. Y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd.
Pa draddodiadau ac arferion eraill sydd ar wahanol adegau o’r flwyddyn? Parêd Dydd Gwyl Dewi, eisteddfod, diwrnod pancos ayb. Mae ‘Diwrnod Shwmae’ yn draddodiad gweddol newydd. Pryd mae hwn a beth sy’n digwydd?
Beth am ddechrau traddodiad newydd ar sail hen rai sydd wedi mynd yn angof? Mae nifer o’r hen syniadau â phwrpas elusennol iddynt. Mae dangos parch at hanes lleol, cael hwyl a chefnogi elusen leol yn sail gwych ar gyfer creu traddodiad newydd.
Sawl traddodiad Cymreig gallwch chi eu henwi a'u hesbonio?
Fedrwch chi wahodd rhywun o'r gymuned i'w cyfweld am draddodiad arbennig?
Fedrwch chi ddysgu a chanu pennil ar gyfer calennig?
Mae Al Lewis yn hoff o ysgrifennu caneuon ar gyfer dathliadau tymhorol e.e ysgrifenodd 'Clychau'r Ceirw' i ddathlu'r Nadolig. Pa artistiaid eraill sydd wedi ysgrifennu caneuon am ddathliad?
Pa draddodiadau tymhorol sydd dal yn bodoli yn Sir Benfro? Fedrwch chi eu hesbonio?
Yn aml iawn, adroddir ar draddodiadau lleol yn y papurau bro. Mae'r papurau yma'n chwarae rhan bwysig iawn yn ein cymunedau. Pa bapurau bro sydd yn Sir Benfro? Ydych chi'n darllen y papurau? Ydych chi wedi anfon erthyglau atynt?
Catrin Stephens – arferion y Nadolig