Y GROMLECH
ADNODDAU I YSGOLION SIR BENFRO
ADNODDAU I YSGOLION SIR BENFRO
Mae nifer o sêr y sgrîn a’r llwyfan wedi ei gwreiddio yn Sir Benfro. Cafodd Rhys Ifans a Christian Bale eu geni yn Hwlffordd ac mae teulu Matthew Rhys o Abergwaun. Cymry Cymraeg ydy’r actorion Ioan Gruffudd a Morfydd Clark. Ioan oedd ‘Mr Fantastic’ yn ffilm ‘Fantastic Four’(2005) a bydd Morfydd yn ymddangos fel Galadriel yn ‘The Lord Of the Rings’ yn 2021.
Mae Syr Bryn Terfel. Alex Jones, Aled Jones a Gethin Jones ym Gymry Cymraeg hefyd yn gweithio ym myd cerdd a’r cyfryngau. Cymry byd enwog hefyd ydy Syr Tom Jones, Dame Shirley Bassey, Syr Anthony Hopkins, Katherine Jenkins, Taron Egerton a Michael Sheen. Maen nhw i gyd yn llysgenhadon dros Gymru, yn gwneud eu gorau i sôn am y ‘wlad fach, fawr’!
Os yw Kylie Minogue yn gantores enwog o Awstralia, mae ei mam yn dod o Faesteg, ac mae ei mamgu yn siarad Cymraeg, ac yn byw yng Nghymmer. Ymhell cyn geni Kylie, yn yr 1960au, roedd Mary Hopkin yn gantores enwog gan fod y ‘Beatles’ yn ysgrifennu caneuon iddi ac yn recordio ei llais. Mae’r DJ Huw Stephens, heddiw, yn cyflwyno hanes cerddoriaeth bop Cymru i ni ar Radio Cymru a BBC Radio 6 tra bod Bethan Elfyn ar Radio 1. Aled Haydn Jones ydy pennaeth Radio 1, ac mae’r tri yn Gymry Cymraeg.
Os ydych eisiau clywed y gorau o gerddoriaeth fodern Cymru heddiw, gwrandwch ar Radio Cymru lle mae bandiau fel ‘Nain Bach’ sydd wedi ennill gwobrau ar draws Prydain a cherddorion gwych fel Gwyneth Glyn, Georgia Ruth a Bronwen Lewis. Ydych chi wedi gwrando ar y grŵp gwerin ‘Calan’. Maen nhw yn creu cerddoriaeth gwerin fodern! Mae sawl ‘super-group’ Cymraeg wedi bod hefyd. Chwiliwch am Eden, Mega a Pendevig.
Mae Cymru yn lleoliad gwych ar gyfer ffilmio. Mae hanes hir i gyfres ‘Dr Who’ yng Nghaerdydd, ond hefyd mae nifer o ffilmiau wedi eu saethu yn Sir Benfro. Beth am ymchwilio i'w hanes?
O ble yng Nghymru mae ein sêr byd enwog yn dod yn wreiddiol?
Pa actorion a cherddorion byd-enwog sy'n medru siarad Cymraeg? Wyddoch chi bod Ioan Gruffydd wedi dechrau actio ar Pobl y Cwm!
Beth am ddewis pennod o 'Iaith ar daith' gan S4C i wylio rhai o selebs Cymru yn mynd ati i ddysgu Cymraeg.
Pwy yw sêr byd miwsig Cymru?
Pa ffilmiau llwyddiannus sydd wedi cael eu ffilmio yma'n Sir Benfro?
Pa feirdd ac awduron talentog sydd gyda ni yng Nghymru sy'n ysgrifennu'n Gymraeg?