Y GROMLECH
ADNODDAU I YSGOLION SIR BENFRO
Ein stori ni - Traed... cam... a naid!
Môr ladron a Morforynion / Pirates and mermaids
Dyma fwy o luniau i chi eu hystyried. Beth yw'r cysylltiad?
O'N BRO I'R BYD
Dechrau wrth ein traed
Cam i weld Cymru
A naid i weld y byd!
Munud i feddwl
Mae gan Sir Benfro bron dau gan milltir o arfordir, porthladdoedd a chilfachau, goleudai ac ynysoedd. Mae’r sir yn gyforiog o straeon môr.
Bartholomew Roberts (1682 – 1722), o Gasnewydd Bach, yw ein môr-leidr mwyaf llwyddiannus. Yn y Caribî a Gorllewin Affrica rhwng 1719 a 1722 cipiodd 470 o longau. Credir iddo ddechrau ei fywyd ar y môr pan oedd yn 13 yn 1695. Yn 1719, roedd yn ail fêt ar y llong gaethwasiaeth y ‘Princess’. Wedi i'r llong gael ei chipio, gorfodwyd ef i ymuno â chriw môr-ladron. Lladdwyd Hywel Davies, capten y criw, chwech wythnos yn ddiweddarach, a dewiswyd Roberts i fod yn gapten yn ei le.
Yn 1722 bu brwydr a trawyd Barti yn ei wddf gan fwled a'i ladd. Taflwyd ei gorff i'r môr yn ôl ei ddymuniad.
Mae nifer o straeon am forforynion yn perthyn i'r sir a chwedlau am smyglwyr a saint yn croesi’r môr i Iwerddon. Ceir digon o wybodaeth am llongddrylliadau a masnach môr yng nghasgliadau Amgueddfa Forwrol Cymru, Abertawe ond hefyd yn Amgueddfa Treftadaeth Morwrol Aberdaugleddau.
Mae’r môr wedi cynnig cyfle, rhamant a pherygl i ddyn dros y canrifoedd. Wrth i fasnach gario morwyr o un cyfandir i'r llall, yn raddol, datblygodd cymunedau aml-hil arbennig yn y dociau ger ein dinasoedd arfordirol ee Tiger Bay. Mae dysgu am dreftadaeth y trigolion yn ddiddorol.
Heddiw, mae ein defnydd o’r môr yn bwysig ond gwahanol iawn. Defnyddia tanceri olew o bellter byd, llongau fferi o Iwerddon, twristiaid a physgotwyr ein porthladdoedd. Mae iechyd y môr yn bwnc llosg a phlastigion yn bygwth bywyd môr. Gwirfoddolwyr yr RNLI a Gwylwyr y Glannau sy’n diogelu’r sawl sy’n mentro i'r tonnau.
HERIAU
SEREN A SBARC
Môr ladron Cymru
Pwy oedd môr ladron enwog Cymru ac o ble roeddent yn dod?
Bywoliaeth o'r môr
Beth am gyfweld a pherson lleol sy'n gwneud bywoliaeth o'r môr?
Siantis
Faint o siantis môr Cymraeg ydych chi'n eu hadnabod? Ydych chi wedi clywed am Fflat Huw Puw, Llongau Caernarfon, Santiana?
Barti Ddu
Pwy oedd Barti Ddu a pham roedd e'n enwog?
Barti Ddu gan I.D Hooson
Darllenwch cerdd I.D Hooson am Barti Ddu. Ydych chi'n gallu ysgrifennu cerdd eich hun?