Y GROMLECH
ADNODDAU I YSGOLION SIR BENFRO
ADNODDAU I YSGOLION SIR BENFRO
Yn dilyn glaniad 1,400 o Ffrancwyr ger Abergwaun ar 22ain o Chwefror 1797, llwyddodd Jemeima Niclas, crydd cyffredin o’r dre, i ennill enwogrwydd iddi ei hunan. Doedd dim llawer o drefn ar y Ffrancod. Ni chafwyd brwydr go iawn, ond lladdwyd sawl un ohonynt a charcharwyd y gweddill mewn byr o dro. Mae tapestri Glaniad y Ffrancod yn adrodd y stori yn wych.
Lawrlwythwch y llyfr digidol yma gan Bill Fowler i ddysgu mwy a yr hanes.
Bu sawl canlyniad hir dymor i'r digwyddiad hwn, ac un ohonynt oedd argraffu y papur punt a’r papur dwybunt cyntaf gan Fanc Lloegr, ar y 26ain o Chwefror, 1797. Gwnaed hyn er mwyn diogelu Banc Lloegr rhag methiant.
Mae hanes ddiddorol i ddatblygiad arian a banciau yng Nghymru yn y canrifoedd diweddar, ond mae darnau arian llawer hÿn wedi eu canfod yn y pridd. Cafodd celc bwysig o ddarnau arian eu canfod ger Abergwaun yn 1996. Roeddent wedi eu claddu tua 1650 O.C. yng nghyfnod y Rhyfel Cartref. Hefyd, mae arian Rhufeinig i'w canfod led led Cymru sy’n adrodd hanes pwysig am ein cysylltiad â’r byd, dwy fil o flynyddoedd yn ôl.
Ble caiff ein darnau arian ni, a gweddill Prydain, eu bathu heddiw? Beth gallwn ddysgu am y ffordd y datblygodd y system arian ar draws y byd? Beth oedd y digwyddiad pwysig ym 1971 a wnaeth newid y ‘goron’, y ‘chweugain’ a’r ‘dimme’ am byth?
Beth am gêm o gardiau curo Arwyr Cymru? Defnyddiwch y cardiau i ddarganfod o ble mae'r arwyr yn dod yng Nghymru.
Pa arwyr o Gymru byddai'n haeddu lle ar arian papur Cymru a pham?
A yw Syr Ifan ab Owen Edwards yn un o'r ffigurau pwysicaf yn hanes y Gymraeg i blant Cymru?
Mae Abergwaun yn dref fach ger y môr. Faint o siantis môr Cymraeg ydych chi'n eu hadnabod? Ydych chi wedi clywed am Fflat Huw Puw, Llongau Caernarfon, Santiana?
Dyma lyfr am 14 o ferched ysbrydoledig o Gymru sy'n arbenigwyr yn eu meysydd ac a ddaeth o bob rhan o Gymru. Pa un o'r menywod hyn yw'r mwyaf ysbrydoledig yn eich barn chi?