Y GROMLECH
ADNODDAU I YSGOLION SIR BENFRO
ADNODDAU I YSGOLION SIR BENFRO
Mae Castell Henllys yn fan cyffrous iawn i ymweld ag ef! Dyma’r unig le y gallwch gerdded ymhlith tai crwn o’r Oes Haearn sydd wedi’u hailadeiladu yn yr union fan ag y byddent wedi sefyll 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae archaeolegwyr ac arbenigwyr eraill wedi cydweithio i ailadeiladu’r tai gan ddefnyddio’r un math o ddeunyddiau ag oedd ar gael yn yr Oes Haearn. Daw hanes y fryngaer yn fyw yng nghwmni staff Castell Henllys sy’n gwisgo dillad o’r cyfnod. Maent yn aelodau o lwyth y ‘Demetae’, oedd yn byw yn y gornel hon o Gymru cyn, yn ystod ac ar ôl goresgyniad y Rhufeiniaid. Maent yn dangos sgiliau crefft oedd yn hanfodol i fywyd – malu grawn, gwehyddu brethyn, plethu basgedi, pobi bara ayb.
Ond pwy oedd y Celtiaid? Sut a phryd y daethon nhw i Sir Benfro, ac o ble? Sut groen, gwallt a chyrff oedd ganddyn nhw?
Rydym ni yng Nghymru yn ystyried ein hunain yn Geltiaid - ond rydym yn wahanol iawn i'r Celtiaid oedd yn byw yma yn Oes yr Haearn. Bu Celtiaid Oes yr Haearn yn byw yma cyn ac ar ôl Oes Crist. Rydym yn mynd yn ôl amser maith, - tua dwy fil o flynyddoedd yn ôl. Os yw ein blynyddoedd wedi'u rhifo drwy ddechrau yn y flwyddyn y ganwyd Crist - bu Celtiaid Oes yr Haearn yn byw yma 750 o flynyddoedd cyn hynny. Daeth Oes yr Haearn i ben yn 43 OC pan ddaeth y Rhufeiniaid i Brydain. Pa iaith siaraden nhw? Pa grefydd oedd ganddyn nhw? Pa chwedlau oedden nhw yn eu hadrodd dros y tân? Sut oedden nhw yn trosglwyddo eu chwedlau?
Sut arfau a gwaith celf oedden nhw yn hoff o greu? Oedd angen i Geltiaid Sir Benfro ymladd yn erbyn y Rhufeiniaid? Os nad oedd y Rhufeiniaid yn ymosod arnom, pam hynny?
Bu'r Celtiaid yn byw ar draws y rhan fwyaf o Ewrop yn ystod Oes yr Haearn. Heddiw mae'r Celtiaid yn byw yng Nghymru, Iwerddon, Yr Alban, Ynys Manaw, Cernyw ac yn Llydaw, ger Ffrainc. Mae eu diwylliant yn parhau heddiw trwy'r defnydd o iaith, cerddoriaeth, cân a llenyddiaeth.
Beth mae’r cerrig enfawr sydd led led ein sir yn ein dysgu i ni amdanynt? Beth yw’r cysylltiad rhwng mynyddoedd y Preseli a Chôr y Cewri? Sut olwg oedd ar wledydd y byd yn y cyfnod hwn? Ydyn ni yn Geltiaid heddiw, neu yn debyg iddyn nhw mewn ambell ffordd? Oes hawl gyda ni ymfalchio o fod o’r un tras?
Mae cyfle i ddysgu am blatiau y ddaear yn symud i greu cyfandiroedd newydd ac am broses esblygiad. Gellir trafod gwaith Darwin, ond hefyd gwaith y gwyddonydd o Gymro, Alfred Russel Wallace.
Pa olion mae'r Celtiaid wedi eu gadael yma'n Sir Benfro?
Ydych chi'n gwybod beth oedd effaith y Celtiaid arnon ni y Cymry?
Fedrwch chi esbonio o le mae'r iaith Gymraeg yn dod? Ydych chi wedi gwylio 'Taith yr Iaith'?
Ydych chi wedi gwylio Cân i Gymru? Beth yw ei gysylltiad a'r Ŵyl Ban Geltaidd? Beth yw eich hoff gân sydd wedi ennill Cân i Gymru?