Y GROMLECH
ADNODDAU I YSGOLION SIR BENFRO
Ein stori ni - Traed... cam... a naid!
Blas ein tir / A taste of our land
Dyma fwy o luniau i chi eu hystyried. Beth yw'r cysylltiad?
O'N BRO I'R BYD
Dechrau wrth ein traed
Cam i weld Cymru
A naid i weld y byd!
Munud i feddwl
Beth sy’n tyfu yn ein sir a sut ydym ni yn marchnata, gwerthu a gweini ein bwydydd? Mae amaethyddiaeth wedi bod yn bwysig erioed yn Sir Benfro. Y diwydiant tato newydd sydd yn bennaf gyfrifol am dynnu sylw siopwyr ond hefyd y mae gennym gig, cynnyrch llaeth, bwyd môr, halen, mêl, jam, cwrw, cace planc a siocled i'w cynnig.
Mae lleoliad Sir Benfro yn golygu y gallwn fanteisio ar wres Llif y Gwlff i greu pridd cynnes yn gynnar yn y flwyddyn. Mae Llinell y Lansger yn dilyn isotherm mis Ionawr o 32 gradd Fahrenheit. O dan y llinell hon mae'r gaeafau mwynach yn hyrwyddo twf cnydau gaeaf. Mae hyn yn golygu y gall ffermwyr dyfu cnydau yn gynharach yn y flwyddyn na rhannau eraill o'r sir. Mae tatws newydd cynnar yn gnwd arian pwysig, ond ceir cystadleuaeth am bris da gan gnydau cynharach o datws a fewnforiwyd o Fôr y Canoldir a mannau eraill. Felly, heddiw, tyfir tato o dan amodau gwahanol iawn i'r rhai a fu yn y gorffennol. Mae Cwmni Puffin Produce yn marchnata llysiau Sir Benfro trwy frand ‘Blas y Tir’.
Mae cynnyrch llaeth gwartheg a geifr ar gael yn Sir Benfro. Mae cynnyrch organig ar gael trwy gwmni Calon Wen a sawl cwmni cynhyrchu llaeth, iogwrt, caws a hufen ia bychan sy’n gwerthu o ddrws y llaethdy ac o siopau llai. Mae hanes hir i farchnata caws Sir Benfro i farchnadoedd yn Lloegr a phellach.
Gellir dysgu am sut y caiff cig ei gynhyrchu a’u allforio o Gymru trwy ‘Cynnyrch Cig Cymru’. (Mae sawl llysgennad ganddynt sy’n cynnal digwyddiadau coginio mewn sioeau amaethyddol. Mae’n bosib y bydd eich disgyblion wedi cyfarfod ag ambell un.) Hefyd, mae gwaith Canolfan Fridio Planhigion Cymru (IBER) sy’n datblygu rhywogaethau newydd yn bwysig ar lefel rhyngwladol. Maent yn helpu codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd bioamrywiaeth o fewn amaeth mewn cymunedau ledled byd.
Ar hyn o bryd, mae garddio yn ffasiynol a phoblogaidd am sawl reswm. Gellir dysgu sut i dyfu llysiau wrth Adam Jones y garddwr mewn clipiau fideo ar lein. Ar y llaw arall, mae dysgu gan arddwyr yn eich cymuned hefyd yn werthfawr, wrth gwrs. Sut gall eu cyngor helpu datblygiad gardd yr ysgol? Gellir edrych ar blannu coed a phlanhigion cynhenid. Mae pedwar math o afal sy’n gynhenid i Sir Benfro! Mae digon o ddewis o goed a phlanhigion gan gwmni ‘Grown in Wales’ sydd yn Nhrefdraeth. Hefyd, mae Lisa Fearn yn berson sy’n gallu ysbrydoli plant i fwynhau tyfu bwyd a choginio yn iach.
Mae cynhyrchwyr bychain ar gyfer cacennau, jam, mêl a halen môr ar gael o fewn ein sir. Mae gwenynfa y Sir ym Maenor Sgoltwn yn cynnig cyfleoedd ac adnoddau yn ddwyieithog. Bydd plant wedi gweld cennin pedr yn cael eu tyfu yn ein cymunedau. Mae’r syniad o dyfu’r blodyn fel cnwd ar gyfer defnydd fferyllol yn un newydd a chyffrous.
HERIAU
SEREN A SBARC
Annog defnydd o'r Gymraeg
Pa fusnesau bwyd e.e. caffis, siopau neu gynhyrchwyr bwyd sy'n lleol i'ch ysgol? Sut allwch chi annog y busnesau i ddefnyddio mwy o Gymraeg?
Cymry Llwyddiannus
Oes na Gymry yn lleol i chi sydd wedi bod yn llwyddiannus ym myd bwyd e.e. coginio, tyfu / creu bwyd, gwerthu bwyd?
Marchnata
Pa gwmniau sydd yn neu wedi defnyddio'r Gymraeg yn llwyddiannus wrth farchnata? Beth oedd hanes y 'Cheddars Bach'?
Coffi Du
Mae 'Coffi Du' gan Gwibdaith Hen Fran yn son am - wel, coffi du, wrth gwrs! Pa ganeuon Cymraeg eraill sy'n siarad am fwyd neu diod?
Llenyddiaeth Ddwyieithog
Mae creu bwydlenni a posteri dwyieithog yn sgil bwysig yng Nghymru. Sut mae dylunio llenyddiaeth sy'n cynnwys y Gymraeg a'r Saesneg ochr wrth ochr?