Rhaglen er mwyn hyrwyddo sgiliau siarad a gwrando yn y Gymraeg a ddatblygwyd trwy brosiect arloesol GwE ar y cyd â Phrifysgol Bangor ac a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru.
Bwriad y rhaglen yw:
deall yr ymchwil sy'n sail i addysgu sgiliau siarad a gwrando yn y Gymraeg
adnabod blaenoriaethau er mwyn cefnogi addysgu sgiliau siarad a gwrando
deall sut y mae sgiliau siarad a gwrando cydweithredol yn cefnogi'i gilydd
gwreiddio egwyddorion cynllunio pwrpasol er mwyn hyrwyddo sgiliau siarad a gwrando yn rhan o ddull ysgol gyfan, er mwyn i arweinwyr ac ymarferwyr eu gwerthuso a'u cynnal
Wrth i bob athro roi sylw bwriadus i ddatblygu sgiliau siarad a gwrando gwelir cynnydd mewn hyder a lles dysgwyr, sy'n eu galluogi i adeiladu perthynas â’u cyfoedion a’u cefnogi i ddyfnhau eu dealltwriaeth ar draws y meysydd dysgu drwy’r Gymraeg.
Mae’r rhaglen yn eich cynorthwyo i adnabod a datblygu saith elfen benodol sydd ynghlwm â datblygu llafaredd y Gymraeg. Mae’r graffeg isod yn amlygu’r elfennau hyn a cheir canllawiau ac arweiniad yn yr adnodd i’ch cefnogi wrth i chi wreiddio arfer llwyddiannus a gwneud newid hir dymor a fydd yn arwain at gynnydd mewn hyder a safonau Cymraeg eich dysgwyr.
'Mae prosiectau fel prosiect Ein Llais Ni a ariennir gan Lywodraeth Cymru a ddatblygwyd ar y cyd gan GwE a Phrifysgol Bangor ac a gyflwynir ledled Gogledd Cymru mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg wedi cyfrannu at y gwaith o hybu sgiliau llafaredd yn y Gymraeg. Mae’r prosiect bellach wedi’i rannu ledled Cymru'
'Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr - Adroddiad blynyddol 2022-23' (Thema 1: Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg; Adran 'Y Gymraeg yn y cwricwlwm i Gymru')