Er mwyn ysgogi cariad gydol oes at ddarllen, mae’n hanfodol ein bod yn creu diwylliant cadarn o ddarllen o fewn ein hysgolion. Diwylliant o ddarllen yw amgylchedd lle caiff darllen ei hyrwyddo, ei werthfawrogi, ei barchu a’i annog. Yn hynny o beth, mae’n hollbwysig fod darllen yn cael lle canolog a statws uchel o fewn ethos yr ysgol gyfan. Mae’n allweddol ei fod yn cael ei ddyrchafu fel sgil bywyd hanfodol ac fel cyfrwng pleser a mwynhad - ymysg disgyblion, staff, rhieni, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach.
Mae creu diwylliant o ddarllen effeithiol a llwyddiannus yn cymryd ymroddiad, ymdrech a dyfalbarhad, a hynny gan holl aelodau cymuned yr ysgol. Ond, o’i wneud yn iawn, bydd yr effaith yn bell gyrhaeddol.
Yma, ceir cyfres o gwestiynau procio i annog ymarferwyr i ystyried y diwylliant o ddarllen sydd yn eu hysgolion ar hyn o bryd. Ceir hefyd syniadau ac adnoddau i gynorthwyo ysgolion i ddatblygu’r diwylliant hwnnw er mwyn meithrin sgiliau darllen dysgwyr o bob oed a’u mwynhad o bob math o destunau, yn ogystal â meithrin cymuned ysgol-gyfan o ddarllenwyr. Rhennir yr adran yn chwe is-adran:
Ethos ysgol gyfan
Trefniadaeth Dosbarth
Cynllunio Bwriadus ar draws y Cwricwlwm
Cyswllt rhwng yr Ysgol a Rhieni a'r Gymuned ehangach
Defnydd o'r Llyfrgell Leol
Dathlu Darllen
Gellid defnyddio'r adnodd ar gyfer hyfforddiant torfol ymarferwyr ac arweinwyr ysgol neu at ddiben ymarferwyr ar lawr dosbarth.
"Roedd angen i ni fel ysgol ystyried sut oeddwn yn hyrwyddo darllen ymysg disgyblion, staff a rhieni. Mae'r adnodd wedi rhoi cyfle i ni feddwl a rhoi cynllun cadarn ar waith. Diolch yn fawr!"
Pennaeth, Ceredigion